Dryswch pentrefwyr ger Rhuthun wrth i bobl chwilio am archfarchnad yno
Dryswch pentrefwyr ger Rhuthun wrth i bobl chwilio am archfarchnad yno
Dio'm yn teimlo fel y math o le lle fyddwch chi'n disgwyl siop Aldi ond mae Google Maps wedi dweud bod o i fyny'r lôn.
Dewch i ni gael golwg.
Drwy'r pentref tawel ac ar hyd y lonydd cul.
Mae Cyffylliog yn Nyffryn Clwyd 'di gweld sawl cerbyd dieithr a sawl un yn chwilio am siop fawr Almaenig gan achosi dipyn o strach.
Does neb yn gwybod pwy wnaeth osod y pin ar dir fferm ar Google Maps ac mae bellach wedi'i ddileu ond mae rhai'n dal i gyfri'r gost.
"Gethon ni lori'n dod heibio a phawb yn dilyn Sat Nav.
"Y ceir yn mynd i fyny a wnaeth lori 'run fath ac aeth hi'n styc.
"Ni'n cael trafferth efo pobl yn dod o'r Sat Nav o hyd.
"Mae'r loris yn dod ac wedi taro'r wifren sy'n dod i tŷ'r ferch.
"Dw i'n disgwyl rhywun heddiw i'w drwsio ond 'swn i'n falch os yw'r Sat Nav ddim yn dangos pobl i ddod yma."
O weld yr ardal, chi byth yn meddwl bod siop fawr Aldi yma.
"Pentref bach ydy o sy'n ffodus o'r dafarn sy'n hwb i'r pentref.
"Na, sna'm Aldi ffordd hyn. Plis peidiwch a dod. Sna'm siop fawr!"
Mae'n debyg mae ar y gongl yma mae'r tancer llaeth wedi mynd yn sownd yn meddwl bod Aldi i fyny'r lôn.
Ni newydd fod i fyny ar droed ac mae mor llithrig ar hyn o bryd.
Galla i ddeud, sna'm Aldi ar gyfyl y lle!
"Pentref bychan ydy Cyffylliog gyda tua 70 o dai a fel dach chi'n gweld, lonydd cul iawn sydd yna."
Dan haen o rew ac eira, mae'r pentref yn ddigon ddistaw.
Mae rhai'n deud y gallai joc fach fod wedi troi'n gas.
"Ddoniol ar un lefel ond yn serious ar yr ochr arall.
"Aeth lori'n sownd a ffarmwr wedi helpu'r lori i ddod yn rhydd.
"Mae unrhyw lôn gefn yn gul iawn a ddim yn addas i loris mawr artig.
"Ar lefel arall, mae'n serious achos lle mae rheolaeth Google gan fod rhywun yn gallu deud bod multistorey Aldi mewn ardal lle fyddai ffermdy!"
Deud mae Google bod y camgymeriad wedi'i ddatrys a bod nhw'n gweithio'n galed i osgoi ffug wybodaeth.
Os dach chi'n chwilio am le i wneud y neges fawr yr wythnos hon o ddilyn y Sat Nav, dylech chi ddim ddod ar gyfyl Cyffylliog.