Donald Trump yn osgoi carchar wrth gael ei ddedfrydu am daliadau tawelu
Mae Donald Trump wedi osgoi carchar ac ni fydd yn derbyn dirwy wedi iddo gael ei ddedfrydu ddydd Gwener.
Ymddangosodd Trump dros gyswllt fideo ar gyfer ei ddedfrydu yn Efrog Newydd, ddyddiau'n unig cyn iddo gael ei benodi'n Arlywydd yr UDA am yr eilwaith.
Ym mis Mai 2024, fe wnaeth rheithgor mewn achos cyfreithiol hanesyddol yn Efrog Newydd benderfynu fod Trump yn euog o 34 cyhuddiad troseddol.
Roedd Trump wedi ei gyhuddo o guddio taliadau gan ei gyn-gyfreithiwr gyda'r bwriad o dawelu honiadau'r cyn seren bornograffig Stormy Daniels ychydig cyn etholiad arlywyddol y wlad yn 2016.
Derbyniodd Donald Trump ddedfryd o gael ei ryddhau'n ddiamod gan yr Ustus Juan Merchan ddydd Gwener - sydd yn golygu bod Mr Trump, fydd yn dechrau ei ail dymor fel Arlywydd mewn 10 diwrnod, yn osgoi'r carchar ag unrhyw ddirwy.
Dywedodd Ustus Merchan mai dyma oedd "yr unig ddedfryd gyfreithiol, heb effeithio ar swydd uchaf y wlad”.
Rhoddodd ei ddymuniadau gorau i Donald Trump wrth iddo ddechrau ei ail dymor fel Arlywydd.