Newyddion S4C

Cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Wrecsam

07/01/2025

Cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Wrecsam

# O Barti Ddu #
 
Bwncath, un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru yn chwarae yn y Saith Seren, tafarn gafodd ei sefydlu fel canolfan Gymraeg pwrpasol yng nghanol Wrecsam 14 blynedd nôl.
 
Rhan amlwg o'r gwaddol gafodd ei adael y tro diwethaf i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld yn 2011.
 
"Mae'r gigiau Cymraeg yn llwyddo, fel mae heno yn dangos!
 
"Mae'r Clwb Clebran yn denu aelodau newydd yn gyson.
 
"Mae wir angen lle fel hyn yn Wrecsam i hybu'r iaith."
 
Yn gohebu yma ers dros 10 mlynedd mae'n hawdd cael yr argraff bod y Gymraeg a Chymreictod ar i fyny.
 
Yn ôl y cyfrifiad diwethaf roedd 'na gwymp yng nghanran y bobl sy'n deud mai Cymry ydyn nhw o ran hunaniaeth genedlaethol.
 
Roedd cwymp hefyd yng nghanran y bobl sy'n dweud eu bod nhw'n gallu siarad Cymraeg.
 
Mae hynny er bod dwy ysgol gynradd Gymraeg newydd wedi agor yn y sir ers yr Eisteddfod ddiwethaf a'r diweddaraf dwy flynedd nôl yma yn Borras a honno
rŵan yn llenwi'n raddol.
 
"Mae lot yn trio cael addysg Gymraeg i'w plant ac yn teithio'n bell neu ddim yn gallu cael lle yn yr ysgol leol felly agorwyd yr ysgol.
 
"Mae gynnon ni rieni cefnogol iawn.
 
"Maen nhw eisiau i'w plant ddysgu Cymraeg oherwydd maen nhw'n gweld y manteision yn y dyfodol."
 
"Hello, my name's Rob McElhenney."
 
"My name is Ryan Reynolds."
 
Mae'n anodd mesur effaith y proffil mae perchnogion newydd Clwb Pel-droed Wrecsam wedi ei roi i'r Gymraeg.
 
Mae'r clwb yn cynnig gwersi Cymraeg i staff a chefnogwyr ar y cyd a Choleg Cambria lle mae Hwb Cymraeg ar fin cael ei greu a lle mae cyrsiau Dysgu Cymraeg yn llenwi heb angen hysbysebu yn ôl Pennaeth y Gymraeg yma sy'n Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith hefyd.
 
"Dw i'n meddwl bod o'n mynd i fod yn hynod o bwysig i ni nid yn unig o ran iaith ond diwylliant hefyd.
 
"Dw i'n meddwl i raddau oedd 'na waddol mawr ar ôl tro dwetha.
 
"Mae 'na ddwy ysgol Gymraeg newydd.
 
"Mae llefydd fel y Saith Seren wedi cael eu datblygu.
 
"Mae isio gafael yn rheiny a parhau i gael mwy a mwy o bethe felly."
 
"Oes gen ti frawd neu chwaer? Mae gen i frawd."
 
Mae'r sesiwn yma gan Uwch Adran yr Urdd yn unig ysgol uwchradd Gymraeg y sir, Ysgol Morgan Llwyd yn hollbwysig i geisio annog defnydd o'r Gymraeg.
 
Mae'r criw yma'n edrych ymlaen at yr Eisteddfod.
 
"Dw i mor gyffrous i weld loads o bobl yma.
 
"Bydd anti fi'n dod lawr a bydd 'na loads o hwyl a pethe."
 
"Oedd Nain arfer cystadlu, a Mam, rŵan dw i'n cystadlu.
 
"Ia, mae'n rhan mawr o pwy 'dan ni fel Cymry."
 
"Dw i'm rili tueddu i glywed Cymraeg ar y coridors.
 
"Dw i'n meddwl fasech chi'n gallu cael arferiad o siarad Cymraeg."
 
Sut ti'n teimlo?
 
"Mae'n eithaf od byw yng Nghymru a bod felly."
 
Blwyddyn Eisteddfod Wrecsam ac un hollbwysig yn y ddinas i'r Gymraeg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.