Newyddion S4C

Penodi Rhinedd Williams yn arolygydd gwisgoedd newydd Gorsedd Cymru

Rhinedd Mair

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi ddydd Mawrth mai Rhinedd Williams - Rhinedd Mair - fydd yn olynu Ela Jones – Ela Cerrigellgwm - yn swydd Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd.

Roedd Ela Jones wedi bod yn Feistres y Gwisgoedd Gorsedd y Beirdd ers 2012 ar ôl i Sian Aman ildio'r awenau.

Mae’r gwaith o baratoi y gwisgoedd yn cymryd trwy gydol y flwyddyn, wrth iddyn nhw gael eu golchi, eu cludo a’u defnyddio yn y seremonïau cyhoeddi ac yna ym mhrif seremonïau'r Eisteddfod.

Dywedodd Rhinedd Mair ei bod hi wedi ei “magu ar aelwyd lle'r oedd y Gymraeg a’i diwylliant a’i thraddodiadau yn holl bwysig a phwyslais mawr ar eisteddfota”.

Un o Faenclochog, Sir Benfro yw Rhinedd ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol y Preseli, Crymych cyn graddio gyda Dosbarth 1af BA Anrhydedd yn y Dyniaethau o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, lle y bu wedyn yn Gofrestrydd y Coleg. 

Wrth fagu’r plant, bu’n athrawes piano, yn gyfeilydd ac yn dysgu canu mewn ysgolion lleol. 

Ond dychwelyd i fyd gweinyddol oedd y nod, ac mae wedi gweithio yn Rheolwr Swyddfa i amryw o sefydliadau gan gynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg.

“Roedd gwaith gwnïo a chrefft hefyd yn rhan fawr o’m plentyndod gan fod mam yn wniyddes heb ei hail ac fe drosglwyddwyd yr arfer a’r ddawn i mi a’m chwaer, Shân,” meddai.

'Allweddol'

Urddwyd Rhinedd i’r Orsedd yn Eisteddfod Abertawe a’r Cylch 2006, gan gymryd yr enw gorseddol Rhinedd Mair. 

A hithau’n byw yn Llanddarog ers 33 o flynyddoedd gyda’i gŵr, Geraint, a’u tri o blant, cydsefydlodd Rhinedd ‘Adran y Neuadd Fach’ ym Mhorthyrhyd yn 2007 gyda’r bwriad o drosglwyddo profiadau ei phlentyndod i’r genhedlaeth nesaf. 

Cyd-enillodd wobr Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled yn 2017 am ei gwaith yn hyfforddi ac yn cydweithio gyda phobl ifanc ardal Cwm Gwendraeth.

“Mae’r Orsedd yn rhan allweddol o’n diwylliant fel Cymry,” meddai Rhinedd. “Mae’n hen draddodiad sy’n parhau i ddatblygu a mynd o nerth i nerth. 

“Mae’n bwysig ei gwarchod, gan fod cymaint o’n traddodiadau Cymreig ni’n diflannu. Mae’r seremonïau’n lliwgar ac yn ystwyth, ond heb golli urddas. 

“Anrhydedd fawr yw cael fy newis fel Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd, ac rwy’n edrych ymlaen at gael cysgodi Ela Cerrigellgwm a dysgu oddi wrthi yn ystod y misoedd sy’n dod, cyn ymgymryd â’r rôl yn llawn yn fy ardal enedigol, wrth ymbaratoi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2026 yn Sir Benfro.”

Dywedodd yr Archdderwydd Mererid Hopwood ei bod yn diolch i Ela Cerrigellgwm am ei gwasanaeth “ardderchog” ar hyd y blynyddoedd.

“Rydym ni’n falch iawn o groesawu Rhinedd Mair atom ni,” meddai.

“Bydd yr Orsedd heb os yn elwa’n fawr o’i phrofiad, ei doniau a’i gweledigaeth.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.