Iwan Steffan: The Vivienne yn 'golled fawr' i’r gymuned LHDTCRA+
Mae Iwan Steffan wedi dweud bod James Lee Williams, oedd yn adnabyddus fel The Vivienne "yn golled fawr i’r gymuned LHDTCRA+" ar ôl i’r seren drag 32 oed farw dros y penwythnos.
Dywedodd y dylanwadwr o Riwlas yng Ngwynedd bod y newyddion am y seren Drag o Fae Colwyn yn "dorcalonnus” sy’n “brifo yn ddwfn" a bod James yn berson “llawn hiwmor a thalent”, a’i stori wedi “cyffwrdd cymaint”.
Enillodd James Lee Williams gyfres gyntaf RuPaul’s Drag Race UK wrth berfformio rhan The Vivienne yn 2019.
Mewn datganiad nos Sul cyhoeddodd swyddog cyhoeddusrwydd The Vivienne y bydd colled fawr ar eu hôl nhw wrth gyhoeddi’r newyddion am eu marwolaeth.
Symudodd The Vivienne i Lerpwl ac yno fe gafodd eu henw drag, a hynny oherwydd bod pobl leol yno yn aml yn eu galw yn ‘Vivienne’ gan eu bod nhw wastad yn gwisgo dillad Vivienne Westwood.
Roedd Iwan wedi dilyn ôl troed James drwy symud o ogledd Cymru i Lerpwl a bod yn rhan o’r gymuned clybiau nos LHDTCRA+ yno efo’i gilydd.
Mewn teyrnged i James, disgrifiodd Iwan y newyddion yn un “torcalonnus” sy’n “brifo yn ddwfn” a bod James yn berson “llawn hiwmor a thalent”, a’i stori wedi “cyffwrdd cymaint”.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Iwan ei fod yn dod o rywle “reit gul a distaw”, a chyn symud i Lerpwl doedd o erioed wedi gweld drag queens o’r blaen.
Dywedodd “Yn gweld rhywun fel James o fy ardal i oedd yn mor rhydd ac mor dalentog â ddim ofn bod yn rhywun gwahanol, wnaeth James ddangos i fi bod y pethau yma yn OK.
"Roedd James wedi rhoi blas i fi i ddangos bod hi’n bosib i fi fod yn fi fy hun.”
Yn edrych nôl ar etifeddiaeth ‘The Vivienne’ dywedodd Iwan: “Y peth mwyaf gwych wnaeth James oedd dod ag ymwybyddiaeth o’r byd drag i’r cyhoedd yn gyffredinol.
“Ar ôl i Vivienne ennill cystadleuaeth RuPaul, roedd yn cyflwyno bob math o sioeau gwahanol - wnaeth hyn rili ddod â drag a phobl y gymuned LGBTQ+ mewn i’r byd normal ti’n gwybod."