Caerdydd: Dyn wedi ei arestio ar ôl i ddyn ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad
Mae dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty gydag “anafiadau all newid ei fywyd” yn dilyn gwrthdrawiad ger Caerdydd fore dydd Llun.
Mae dyn 30 oed o ardal Y Tyllgoed wedi’i arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau.
Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw i wrthdrawiad rhwng dau gar, fan a lori ar ffordd orllewinol yr A48 i gyfeiriad Caerdydd am 05.00.
Cafodd dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau difrifol allai newid ei fywyd meddai’r llu.
Mae’r dyn o’r Tyllgoed wedi’i arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau, gyrru pan nad yw’n ddiogel i wneud hynny o achos effaith cyffuriau neu alcohol, ac achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n ddiofal.