Newyddion S4C

'Hybu'r iaith Gymraeg' oedd prif nod Cymraes ar The Traitors

'Hybu'r iaith Gymraeg' oedd prif nod Cymraes ar The Traitors

Mae'r erthygl hon yn trafod datblygiadau penodau cyntaf rhaglen The Traitors.

Mae’r Gymraes oedd yn rhan o gyfres The Traitors eleni wedi dweud mai rhoi llwyfan i’r Gymraeg oedd ei phrif nod wrth gymryd rhan.

Roedd nifer o'r cystadleuwyr eraill yn credu ei bod hi'n un o'r bradwyr, er ei bod hi ymhlith y ffyddloniaid (faithful) mewn gwirionedd.

Yr her i'r ffyddloniaid yn y gyfres ydy darganfod pwy yw'r bradwyr yn eu plith.

Datgelodd Elen mai aelod ffyddlon o’r gyfres oedd hi yn Gymraeg gyntaf, drwy ddweud "Dw i yn ffyddlon. I'm a faithful".  

Mae bellach wedi dweud mai defnyddio’r Gymraeg ar raglen uniaith Saesneg oedd ei phrif nod wrth ymuno â’r gyfres.

“Rhywbeth mawr o’n i eisiau ‘neud oedd hyrwyddo’r iaith,” meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

“Does dim lot o bobl yn siarad – s’dim lot o bobl yn siarad am yr iaith Gymraeg ar raglenni fel BBC1.

“Dyna oedd y prif beth o’n i eisiau gwneud.”

Cyfathrebu

A hithau’n hyfforddi i fod yn gantores opera, dywedodd mai rhoi hwb i’w gyrfa oedd “i ryw raddau” un o’i rhesymau dros fynd ar y gyfres hefyd

Yn ogleddwraig sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, fe wnaeth hi gystadlu yn Unawd mezzo/contralto/gwrth-denor 19 ac o dan 25 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

Dywedodd ei bod o’r gred y byddai’n “reit dda” yn chwarae’r gêm, a hithau eisoes wedi dweud y byddai’r Gymraeg yn fantais iddi.

Ond roedd cyfathrebu yn ei hail iaith, sef Saesneg, yn her iddi gan olygu ei bod yn llai hyderus.

“Yn reit eironig o’n i'n meddwl byswn i’n reit dda yn y gêm, o’n i'n meddwl ‘sŵn i’n chwarae’r gêm yn dda, bod fi reit dda am ddarllen pobol," meddai.

“Ond yn amlwg neshi ddim chwarae’r gêm yn dda iawn. Oni ddim yn dda iawn am gyfleu be' oedd yn mynd trwy fy meddwl i dwi’m yn meddwl.

“Oedd y diffyg sgiliau cyfathrebu - dwi meddwl dyna oedd fy ngwendid i yn anffodus.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.