Nigel Farage yn amddiffyn Elon Musk dros sylwadau am gangiau 'grŵmio'
Mae Nigel Farage wedi amddiffyn Elon Musk ar ôl i’r biliwnydd feirniadu Llywodraeth y DU dros y modd yr ymdriniodd â gangiau 'grŵmio' mewn cyfres o sylwadau ar blatfform X.
Awgrymodd Mr Musk, sy’n berchen ar y platfform cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn cael ei adnabod yn flaenorol fel Twitter, fod Jess Phillips “yn haeddu bod yn y carchar” am wrthod ceisiadau i’r Swyddfa Gartref arwain ymchwiliad cyhoeddus i achos o blant yn cael eu hecsbloetio'n rhywiol yn Oldham.
Mae e hefyd wedi beirniadu Syr Keir Starmer, gan ddweud bod Prif Weinidog y DU wedi methu â dod â “gangiau treisio” o flaen eu gwell pan oedd yn gyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus.
Dywedodd arweinydd Reform UK, Mr Farage, wrth raglen Sunday With Laura Kuenssberg y BBC fod Mr Musk wedi defnyddio “termau anodd iawn” ond bod “rhyddid barn yn ôl” ar X o dan ei berchnogaeth.
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper wedi amddiffyn y gweinidog diogelu Ms Phillips, gan ei disgrifio fel siaradwraig “ddi-ofn ac aruthrol” dros ddioddefwyr cam-drin rhywiol sydd wedi “ymgyrchu’n ddiflino” am gyfiawnder i’r rhai sydd wedi’u siomi gan fethiant sefydliadol.
Dywedodd Mr Farage fod “pethau anodd yn cael eu dweud… gan ddwy ochr y ddadl”.
Dywedodd fod X yn lle ar gyfer “dadl agored iawn” oherwydd fod Elon Musk yn berchen ar y cyfrwng bellach.
“Mae’r dyn hwn yn digwydd bod y dyn cyfoethocaf yn y byd, ond yn yr un modd, mae’r ffaith ei fod wedi prynu Twitter nawr mewn gwirionedd yn rhoi lle i ni gael dadl agored iawn am lawer o bethau.
“Efallai ein bod ni’n ei weld yn sarhaus, ond mae’n beth da, nid yn beth drwg,” meddai.