Tad Sara Sharif 'wedi dioddef ymosodiad yn y carchar'
Mae yna adroddiadau fod y tad a lofruddiodd ei ferch 10 oed, Sara Sharif, wedi dioddef ymosodiad yn y carchar.
Yn ôl papur newydd The Sun fe ddioddefodd Urfan Sharif ymosodiad gan ddau garcharor wedi’u harfogi â chaead tun tiwna ar ddydd Calan mewn cell yng Ngharchar Belmarsh.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: “Mae’r heddlu’n ymchwilio i ymosodiad ar garcharor yng Ngharchar Belmarsh ar 1 Ionawr.
“Byddai’n amhriodol gwneud sylw pellach wrth i ni ymchwilio.”
Dywedodd The Sun fod y dyn 43 oed wedi dioddef toriadau i’w wddf a’i wyneb ac wedi derbyn triniaeth feddygol y tu mewn i’r carchar.
Roedden nhw ar ddeall nad oedd angen mynd â Sharif i'r ysbyty.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Llundain fod swyddogion yn ymchwilio i “honiad bod carcharor wedi dioddef ymosodiad yn Belmarsh”, gan ychwanegu bod “y dyn 43 oed wedi dioddef anafiadau nad oedd yn bygwth ei fywyd”.
Cafodd Urfan Sharif a llysfam Sara, Beinash Batool, eu carcharu am oes ym mis Rhagfyr.
Fe gafodd Urfan Sharif isafswm o 40 mlynedd a Beinash Batool isafswm o 33 mlynedd yn y carchar.
Wrth ddedfrydu, dywedodd yr Ustus Cavanagh bod Sara Sharif wedi dioddef anafiadau "erchyll" a'i fod yn "anodd dychmygu" beth oedd Sara Sharif wedi bod drwyddo wrth gael ei "harteithio".
Bu farw Sara ar 8 Awst y llynedd. Fe gafodd yr heddlu hyd iddi ddeuddydd yn ddiweddarach mewn gwely yn ei chartref yn Woking, Surrey.
Roedd mwy na 25 o’i hesgyrn wedi torri ac roedd hi wedi dioddef llosgiadau, a brathiadau dynol yn ystod cyfnod o gam-drin a oedd wedi ymestyn dros ddwy flynedd o leiaf.
Roedd Urfan Sharif, 42, wedi galw’r heddlu o Bacistan, lle’r oedd wedi ffoi gyda gweddill ei deulu.
Dywedodd mam Sara Sharif, Olga Sharif, mewn datganiad ar ôl y dedfrydu bod llofruddwyr ei merch yn “lwfrgwn”.
Mewn datganiad effaith dioddefwr a ddarllenwyd i’r llys gan yr erlynydd Bill Emlyn Jones KC, dywedodd: “Roedd Sara bob amser yn gwenu.
“Roedd ganddi ei chymeriad unigryw ei hun. Yr unig beth oedd gen i ar ôl i'w roi i fy merch oedd rhoi’r angladd Gatholig hardd iddi yr oedd hi'n ei haeddu.
“Mae hi bellach yn angel sy'n edrych i lawr arnom ni o'r nefoedd, y tu hwnt i drais.
“Hyd heddiw, alla i ddim deall sut y gall rhywun fod mor greulon i blentyn.”
Dywedodd yr erlynydd Bill Emlyn Jones KC wrth y llys bod y ferch wedi dioddef “poen ofnadwy” dros “gyfnod hir” cyn ei marwolaeth a bod y trais wedi cynnwys “defnydd o arfau”.