Newyddion S4C

Cyn-arlywydd America, Jimmy Carter, wedi marw'n 100 oed

29/12/2024

Cyn-arlywydd America, Jimmy Carter, wedi marw'n 100 oed

Mae cyn-arlywydd America, Jimmy Carter, wedi marw yn 100 oed. 

Roedd Mr Carter yn arlywydd rhwng 1977 ac 1981, a fe yw'r cyn arlywydd sydd wedi byw am y cyfnod hwyaf. 

Cafodd Mr Carter ei eni ym 1924 yn Georgia a chafodd ei ethol yn seneddwr y dalaith yn y 60au cyn cael ei benodi yn llywodraethwr y dalaith yn 1971. 

Bu farw yn Plains, Georgia, gyda'i deulu o'i amgylch.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei fab Chip Carter: “Roedd fy nhad yn arwr, nid yn unig i mi ond i bawb sy’n credu mewn heddwch, hawliau dynol, a chariad anhunanol.

"Rhannodd fy mrodyr, fy chwaer, a minnau ef gyda gweddill y byd trwy'r credoau cyffredin hyn. 

"Y byd yw ein teulu oherwydd y ffordd y daeth â phobl ynghyd, a diolchwn ichi am anrhydeddu ei gof trwy barhau i fyw'r credoau cyffredin hyn ."

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan bod Jimmy Carter yn “ddyn rhyfeddol”.

“Cefais y fraint o gael pryd o fwyd yn ei gwmni, pan siaradodd o'r galon an ei gariad tuag at farddoniaeth Dylan Thomas a'r diwylliant Cymreig.  

Trist i glywed am farwolaeth Jimmy Carter. Gorffwys mewn hedd,” meddai. 

'Person mwyaf pwerus yn y byd'

Ac yntau'n ohebydd BBC Cymru yn y gorllewin, cyfarfod â Jimmy Carter oedd un o uchafbwyntiau'r cyn newyddiadurwr Alun Lenny. Cafodd y fraint o'i holi mewn ardal anghysbell ger Tregaron.  

"Yr hyn oedd mor arbennig am gwrdd â Jimmy Carter oedd gweld y person mwyaf pwerus yn y byd yn ei ddydd mewn cyd-destun mor gyffredin."

Image
Jimmy Carter

Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod hi'n "fraint yn wir yn ystod fy ngyrfa fel newyddiadurwr oedd cyfarfod â Jimmy Carter a hynny yng nghapel bach Soar y Mynydd.

"Roedd Carter yn ŵr bonheddig iawn, yn barod iawn i wneud cyfweliad ac yn amlwg yn un o'dd wedi bod mewn Noson Lawen yn Llanddewi Brefi y noson cyn hynny yn ymwybodol iawn o ddiwylliant a hanes Cymru.

"Pan aethon ni lawr wedyn i argae Llyn Brianne, fe ddoth e yn ôl ata i a gofyn  'So all this water goes to England?' medde fe. 'Well actually Mr Carter', medde fi. 'Most of this water goes to Swansea."   

Image
Alun Lenny a Jimmy Carter

'Cyfarwydd â helyntion Cymru'

Ac roedd Jimmy Carter yn gyfarwydd â helyntion Cymru, yn ôl Alun Lenny, ac yn arbennig yr ymgyrch lwyddiannus dros 60 mlynedd yn ôl i atal boddi Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach gan ffermwyr ac aelodau o'r gymuned. A'r bwriad bryd hynny oedd darparu dŵr i Abertawe 

"Fe oedd e yn gyfarwydd â'r helyntion oedd wedi bod yng Nghymru, boddi Tryweryn, a blynyddoedd ar ôl hynny, fe nes i ganfod iddo fe fod yn flaenllaw yn arwain ymgyrch fel llywodraethwr Georgia yn erbyn boddi tiroedd afon y Flint yn Georgia a'r tiroedd hynny yn eiddo i'r llwythi brodorol. 

"Fe lwyddwyd fan yno i rwystro'r boddi fel ddigwyddodd yn Llangyndeyrn wrth gwrs. 

"Wedyn un o'r golygfeydd mwyaf bizarre oedd, ar ôl i ni fynd lawr i fferm yn ardal Cwrt Y Cadno  - odd 'na bobol yn cneifio yno, ac ar ôl cael cinio daeth Carter allan  i'r clôs i siarad â'r cneifwyr, a wedyn tynnu siaced lwyd a chneifio dafad. 

"Dyna un o'r golygfeydd rhyfedda'  - ac un o'r bois wedyn yn dipo'i ffon yn y bwced lle odd nod glas ac yn ysgrifennu Carter ar ochor y ddafad." 

Image
Carter

Dywedodd Alun Lenny fod Jimmy Carter wedi cyflawni gwaith arbennig ar ôl iddo ffarwelio â'r Tŷ Gwyn. 

"Ar ôl iddo adael y Tŷ Gwyn, fe wnaeth Jimmy Carter waith anhygoel mwy nag unrhyw gyn-arlywydd ers hynny na chyn hynny. 

"Fe oedd e'n ganolog yng nghytundeb Camp David ddaeth â heddwch rhwng Yr Aifft ac Israel, roedd e hefyd yn ganolog yn dod â heddwch i Bosnia ac yng nghanoldir America ac am hynny, fe gafodd e Wobr Nobel a haeddiannol iawn."

Bydd Alun Lenny yn ei gofio fel rhywun gydag "egwyddorion Cristnogol o dosturi."

"Fe oedd Carter yn ymarfer egwyddorion Cristnogol o dosturi ac yn goddef pobl eraill a dyna dwi'n credu fydd y peth fydda i'n cofio am y dyn yma sef ei fod e'n berson o argyhoeddiad Cristnogol gwirioneddol a thosturiol er iddo fod ar un adeg y person mwyaf pwerus yn y byd." 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.