Newyddion S4C

Teclyn AI newydd yn dod o hyd i gyflwr ar y galon cyn i symptomau ymddangos

Claf

Mae teclyn deallusrwydd artiffisial (Artificial Intelligence/AI) newydd yn gallu dod o hyd i bobl sydd gyda chyflwr ar y galon cyn iddyn nhw ddangos unrhyw symptomau.

Mae’r offeryn arloesol yn chwilio drwy gofnodion meddygon teulu i chwilio am batrymau gwybodaeth a allai ddangos a yw claf mewn perygl o ddatblygu'r cyflwr ffibriliad atrïaidd (AF).

Dywedodd cyn-gapten y Fyddin a gymerodd ran yn y gwaith ymchwil ei fod yn “ddiolchgar iawn” bod ei gyflwr AF wedi’i ddarganfod gan y teclyn AI.

Dywedodd John Pengelly ei fod bellach yn cymryd “cwpl o dabledi y dydd” i leihau ei risg uwch o gael strôc a allai fod yn farwol.

Mae AF yn gyflwr ar y galon sy'n achosi curiad calon afreolaidd ac yn aml yn annormal o gyflym, ac mae gan bobl sy'n diodef gyda'r cyflwr risg sylweddol uwch o gael strôc.

I rai, gall AF arwain at gael pendro, diffyg anadl a blinder.

Ond nid oes gan eraill unrhyw symptomau o'r cyflwr o gwbl ac nid yw'r person dan sylw yn ymwybodol bod cyfradd curiad ei galon yn afreolaidd.

Mae tua 1.6 miliwn o bobl ledled y DU wedi cael diagnosis o AF.

Ond dywedodd elusen Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) ei bod hi’n debygol y bydd miloedd o bobl sydd heb gael diagnosis yn y DU ac nad ydyn nhw’n ymwybodol eu bod nhw’n byw gyda’r cyflwr.

Pan fydd AF yn cael ei nodi a'i drin yn gynnar, gellir ei reoli a lleihau'r risg o strôc.

Mae’r offeryn AI newydd yn cael ei asesu mewn gwaith ymchwil o’r enw Find-AF, sy’n cael ei ariannu gan BHF ac Elusen Ysbytai Leeds.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.