'Dyn bodlon braf': Atgofion dyn o Fôn o fod yn destun i luniau Syr Kyffin Williams
'Dyn bodlon braf': Atgofion dyn o Fôn o fod yn destun i luniau Syr Kyffin Williams
"O'n i wrth fy modd efo fo, oedd o'n ddyn bodlon braf 'de, bodlon braf."
Yn 91 oed, bu Hugh Rowlands yn un o brif destunau un o arlunwyr mwyaf adnabyddus Cymru, Syr Kyffin Williams.
Bu farw Syr Kyffin Williams yn 88 oed yn 2006 wedi cyfnod o salwch, ac roedd yn byw ym Môn drwy gydol ei fywyd.
Fe roddodd dros 400 o weithiau celf gwreiddiol i Oriel Môn yn Llangefni yn ystod ei fywyd, o frasluniau i bentiadau olew mawr.
Roedd yr arlunydd yn enwog am ddarlunio pobl a thirwedd Cymru, ac un o'r rhain ydy Hugh Rowlands.
Am ddegawdau, roedd Hugh yn byw ac yn ffermio yn Llanddona ar Ynys Môn, ond mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon.
Drwy hap a damwain y daeth Hugh ar draws Kyffin, a hynny wedi i'w gymydog yn y fferm drws nesaf sôn amdano wrth yr arlunydd.
"Dwi'n mynd yn ôl mwy nag ugain mlynedd...be oedd o isio oedd gwynab Cymraeg ar gyfer y magazine 'ma yn America a wedyn holi'r hen wraig yn lle nesa', Miss Hamilton, a wedyn mi ddudodd hi 'Why don't you try Hugh in the next farm?'
"Felly gychwynnodd o.
"Fel arfer o'n i ym Mhwllfanogl am ryw ddwy awr bob tro, oedd o'n siarad ar adega...brêc ella panad a wedyn yn ôl i'r paent wedyn."
Mae gan Hugh atgofion da o fod yng nghwmni Syr Kyffin yn ei stiwdio ym Mhwllfanogl yn ogystal ag yn ei gartref ei hun yn Llanddona.
Felly sut ddyn oedd yr arlunydd o Fôn?
"Dyn hollol naturiol, hollol homely de...fysa 'na ddim dwy geiniog yn rwbio yn erbyn ei gilydd 'de, doedd o ddim isio dangos ei fawredd na dim byd, dim o gwbl," meddai.
"Oedd o wrth ei fodd yn dod acw ag yn Llanddona i lawr o Llansadwrn i lawr i'r traeth yn Llanddona, oedd o wrth ei fodd yn fan 'na, ma' 'na bentwr wedi cael eu tynnu yn fan 'na.
"Mae o'n rwbath i gadw dydi mewn ffordd, yr un un dwi yn union, fyddai ddim isio mawredd na dim 'de ond yr un Hugh dwi."