Vladimir Putin yn ymddiheuro wedi i awyren blymio i'r ddaear yn Kazakhstan
Mae Arlywydd Rwsia Vladimir Putin wedi ymddiheuro wedi i awyren blymio o'r awyr ar ddydd Nadolig, ond nid yw wedi dweud mai ei wlad oedd yn gyfrifol am y digwyddiad.
Disgrifiodd Mr Putin y digwyddiad fel un trychinebus oedd wedi digwydd pan roedd systemau amddiffyn gofod awyr Rwsia'n gweithredu i atal ymosodiadau gan ddronau o Wcráin.
Yn gynharach ddydd Sadwrn dywedodd llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn ei bod yn bosib mai lluoedd Rwsia oedd yn gyfrifol am saethu'r awyren o'r awyr dros Kazakhstan.
Dywedodd John Kirby bod "arwyddion cynnar" yn awgrymu y gallai Rwsia fod yn gyfrifol am achosi i awyren Azerbaijan Airlines blymio i'r ddaear ar 25 Rhagfyr.
Bu farw 38 o bobl yn y ddamwain ac mae pob un o'r 29 o oroeswyr wedi'u hanafu.
Roedd yr awyren yn teithio o brifddinas Azerbaijan, Baku, i Grozny yn Rwsia.
Ni wnaeth Mr Kirby wneud sylwadau pellach.
Y gred yw bod yr awyren wedi cael ei saethu i lawr gan systemau amddiffyn awyr Rwsia wrth i'r awyren geisio glanio yn Chechnya.
Yn ôl adroddiadau, fe gafodd yr awyren ei dargyfeirio ar draws Môr Caspia i Kazakhstan yn sgil niwl.
Dywedodd pennaeth asiantaeth hedfan sifil Rwsia fod y sefyllfa yn Chechnya yn "gymhleth iawn" oherwydd streiciau drôn Wcráin ar y rhanbarth.
Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Azerbaijan, Rashad Nabiyev, wrth gyfryngau’r wlad fod casgliadau cychwynnol arbenigwyr yn "pwyntio at effaith allanol".
Ychwanegodd: "Bydd y math o arf a gafodd ei ddefnyddio yn cael ei ddatgelu yn ystod yr ymchwiliad."
Ers hynny, mae Azerbaijan Airlines wedi atal hediadau i nifer o ddinasoedd Rwsia.
Llun: Meiramgul Kussainova / Anadolu via Wochit