Rhybudd y gallai niwl trwchus barhau i effeithio ar gynlluniau teithio
Fe fydd y niwl sydd wedi tarfu ar deithiau hedfan yn rhai o feysydd awyr prysuraf Prydain yn parhau am gyfnod yn ystod y penwythnos.
Mae niwl trwchus wedi gorchuddio ardaloedd eang o'r wlad dros y dyddiau diwethaf.
Mewn rhai ardaloedd, roedd niwl trwchus wedi lleihau pellter gweld i ddim ond 100 metr dros nos Wener a bore Sadwrn meddai'r Swyddfa Dywydd.
Nid yw'r gwasanaeth tywydd cenedlaethol wedi cyhoeddi rhybuddion am niwl eto ond dywedodd llefyarydd y byddant yn cadw llygad ar y sefyllfa dros nos.
“Mae’n adeg honno o’r flwyddyn pan mae pobl yn teithio llawer o amgylch y wlad ac mae yna lawer o bobl ar y ffyrdd,” meddai Liam Eslick o'r Swyddfa Dywydd.
“Mae yna lawer o niwl yn gorchuddio llawer o Loegr, yn bennaf De Ddwyrain a chanolbarth Lloegr, ond mae gweddill y wlad yn gweld tipyn o niwl trwchus hefyd.
“Fe fydd hi’n eithaf llwm fore Sadwrn a bydd yna ardaloedd o niwl o hyd a fydd yn cymryd ychydig yn hirach i glirio.”
Cafodd hediadau o Gatwick, Heathrow a Manceinion eu heffeithio oherwydd niwl ddydd Gwener a gallai hyn barhau os na fydd y tywydd niwlog yn newid.
Bu tarfu ar hediadau o Gaerdydd hefyd ddydd Gwener.