11 o farwolaethau ym Mhrydain yn ystod cyfnod y tywydd poeth

Mae 11 o bobl wedi boddi yn y Deyrnas Unedig yn ystod cyfnod y tywydd poeth yr wythnos hon.
Bachgen 15 oed o Orllewin Sir Efrog oedd y diweddaraf i farw, a hynny mewn camlas, yn ôl The Mirror.
Roedd y bachgen ymhlith yr 11 fu farw ledled Prydain, gan gynnwys bachgen 13 oed o Ogledd Iwerddon.
Daw'r marwolaethau yn dilyn rhybudd am “drychineb naturiol” gan arbenigwyr sydd wedi darogan y gallai’r tymheredd uchel arwain at gannoedd yn rhagor o farwolaethau.
Roedd mwy na 2,500 o farwolaethau yn gysylltiedig â thymheredd poeth yn ystod yr haf y llynedd, gyda 1,700 ohonynt ym mis Awst yn unig – y nifer uchaf ers 2004.
Darllenwch y stori’n llawn yma.