Araith y Brenin: 'Diolch i'r meddygon a'r nyrsys am eich gofal gyda fy nhriniaeth ganser'
Mae'r Brenin wedi defnyddio ei araith ar ddiwrnod y Nadolig i roi teyrnged i'r meddygon a'r nyrsys "anhunanol" a roddodd "gryfder, gofal a chysur" pan yr oedd ef a Thywysoges Cymru yn wynebu triniaeth am ganser.
Yn ei neges Nadolig flynyddol, roedd y Brenin yn awyddus i fynegi ei "ddiolch o waelod calon" i'r timau meddygol a wnaeth ei gefnogi a'i deulu "drwy ansicrwydd a phryderon y salwch".
Dywedodd: "O safbwynt personol, rwyf eisiau diolch o waelod calon i'r doctoriad a'r nyrsys anhunanol a wnaeth fy nghefnogi i ac aelodau eraill o fy nheulu eleni drwy ansicrwydd salwch, ac maen nhw wedi darparu y cryfder, gofal a'r cysur oedd eu hangen arnom ni.
"Rwyf hefyd yn hynod o ddiolchgar i bawb a wnaeth gynnig geiriau o gysur i'n hannog ni ymlaen."
Siaradodd hefyd am ei "falchder" am sut y gwnaeth cymunedau ymateb i'r anhrefn wedi ymosodiad Southport a laddodd tair merch fach.
Cyhoeddodd y Brenin ym mis Chwefror ei fod yn derbyn triniaeth am ganser ond dyw'r math penodol o ganser ddim wedi ei ddatgelu.
Cafodd y canser ei ddarganfod yn ystod ei driniaeth ddiweddar ar y prostad, ond nid yw wedi cael diagnosis canser y prostad.
Cyhoeddodd Palas Kensington ym mis Mawrth fod Tywysoges Cymru yn derbyn triniaeth am ganser.
Dywedodd ym mis Medi y byddai yn dychwelyd i ddyletswyddau cyhoeddus ar ôl cwblhau triniaeth cemotherapi.