Newyddion S4C

Syr Keir Starmer yn beirniadu ymosodiad diweddaraf Rwsia ar Wcráin

Ymosodiad Rwsia ar Wcrain

Nid yw “peiriant rhyfel gwaedlyd a chreulon” Rwsia wedi dangos unrhyw seibiant “hyd yn oed adeg y Nadolig”, meddai’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer, wrth iddo gondemnio'r ymosodiadau diweddaraf yn erbyn Wcráin.

Mae Moscow wedi lansio llu o daflegrau at  Wcráin ar Ddydd Nadolig, gyda’r nod o ddifrodi seilwaith ynni ledled y wlad.

Cafodd mwy na 70 o daflegrau, gan gynnwys taflegrau balistig a mwy na 100 o ddronau, eu defnyddio yn yr ymosodiad, yn ôl arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky.

Condemniodd Syr Keir yr hyn a alwodd yn “ymosodiad parhaus ar seilwaith ynni Wcráin”.

Ychwanegodd: “Rwy’n rhoi teyrnged i wydnwch pobl Wcrain, ac arweinyddiaeth yr Arlywydd Zelensky, yn wyneb ymosodiadau drôn a thaflegrau pellach gan beiriant rhyfel gwaedlyd a chreulon Putin, heb unrhyw seibiant, hyd yn oed dros y Nadolig.

“Wrth i ni fynd i mewn i’r Flwyddyn Newydd, mae’n parhau i fod yn hanfodol ein bod ni’n ailddyblu ein penderfyniad i roi Wcráin yn y sefyllfa gryfaf posib i ddod ag ymddygiad ymosodol anghyfreithlon Rwsia yn erbyn pobol Wcráin i ben.”

Ar X, Twitter gynt, ysgrifennodd Mr Zelensky: “Heddiw, dewisodd Putin y Nadolig yn fwriadol ar gyfer ymosodiad. Beth allai fod yn fwy annynol?”

Dywedodd fod 50 o daflegrau a nifer “sylweddol” o ddronau wedi’u saethu i lawr.

Ychwanegodd: “Yn anffodus, bu difrod. Ar hyn o bryd, mae toriadau pŵer mewn sawl rhanbarth. Mae peirianwyr yn gweithio i adfer cyflenwad pŵer cyn gynted â phosibl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.