Degau wedi marw ar ôl i awyren blymio i'r ddaear yn Kazakhstan
Mae awyren a oedd yn cludo 67 o bobl wedi plymio i'r ddaear yn Kazakhstan yn ôl awdurdodau'r wlad.
Mae adroddiadau cynnar yn awgrymu fod 25 o bobl wedi goroesi, gyda 22 ohonynt wedi eu cludo i'r ysbyty yn ôl gweinyddiaeth iechyd Kazakhstan.
Fe aeth awyren Azerbaijan Airlines ar dân gan blymio i'r ddaear ger dinas Aktau, ond mae'r tân bellach wedi'i ddiffodd.
Nid yw achos y tân yn hysbys eto.
Roedd yr awyren yn teithio o brifddinas Azerbaijan, Baku, i Grozny yn Rwsia.
Yn ôl adroddiadau, fe gafodd yr awyren ei dargyfeirio yn sgil y niwl.
Bydd Cymru yn wynebu Kazakhstan yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn 2025.