
Pryder am y cynnydd mewn sbwriel ar lan Llyn Padarn yng Ngwynedd
Mae trigolion ardal Llanberis yng Ngwynedd wedi lleisio eu pryderon am y cynnydd mewn sbwriel sydd yn cael ei adael ger Llyn Padarn.
Yn ôl Amy Warham, sydd yn rhedeg cwmni dosbarthiadau ioga awyr agored yn y pentref, mae maint y broblem wedi cynyddu dros y dyddiau diwethaf.
Dywedodd Ms Warham ei bod wedi “digalonni” gyda’r holl sbwriel oedd wedi ei adael ar ôl yn yr ardal nos Fawrth.
“Rydym wedi bod yn clirio sbwriel am bron i flwyddyn erbyn hyn, jyst oherwydd ein bod yn defnyddio’r ardal leol a bod ni eisiau gofalu amdani,” eglurodd wrth Newyddion S4C.

“Yn ddiweddar, rydym wedi gweld newid mawr yn y sbwriel sydd yn cael ei adael ar ôl, a gallai’m dweud os mae hyn oherwydd y cyfnod clo, y tywydd poeth neu’r ffaith ei bod hi’n wyliau haf rŵan.
“Ond neithiwr pan oeddwn ni ar fy ffordd i nofio, nes i weld lot o bobol ifanc yn partïo ger y llyn.
“Roedd hi’n brysur iawn, ac o ganlyniad roedd yna lawer o sbwriel wedi ei adael ar ôl.
“Rwy’n deall oherwydd y cyfyngiadau does yna ddim lot o lefydd allen nhw fynd, ond tydi hyn ddim yn esgus i adael pentwr o ganiau a phlastig ar ôl.
“Roedd yr olygfa mor ofnadwy nes i grio – mae hwn yn ardal mor fendigedig a fama yw lle dwi’n byw.
“Mae’n mor drist bod cymaint yn gallu bod mor ddiofal.”
Wrth i fwy o ymwelwyr a phobl leol heidio i’r ardal dros yr haf, mae’r perchennog busnes nawr yn galw am fwy o fesurau i warchod yr atyniad.
“Rwy’n deall bod gan Gyngor Gwynedd adnoddau cyfyngedig i allu mynd i’r afael â’r mater. Ond mae’n rhaid i’r sefyllfa newid,” dywedodd.
“Dwi’n gweld ar gwpl o draethau bod ganddyn nhw ‘wheelie bins’ – mae angen rhywbeth tebyg â lliwiau gwahanol ar gyfer deunydd gwahanol yma yn Llanberis.

“Dim ond un bin sydd ger y Lone Tree Café a dydi hynny ddim yn ddigon.
“Mae angen hefyd addysgu plant a phobol ifanc amdan warchod yr amgylchedd – mae angen iddyn nhw fod yn ymwybodol sut mae eu penderfyniad yn effeithio’r sefyllfa.”
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Chyngor Gwynedd am ymateb.