Cwm Taf: 'Newid brys dros dro' i wasanaethau strôc 'o achos prinder difrifol staff'
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi cyhoeddi newidiadau brys dros dro i wasanaethau strôc cleifion mewnol mewn ysbytai ym mis Ionawr.
Daw'r newidiadau o achos "prinder staff meddygol difrifol" medd y bwrdd iechyd.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: "Bydd yr uned strôc acíwt yn symud dros dro o Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful i ymuno â’r uned strôc acíwt yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, yr wythnos yn dechrau 6 Ionawr.
"Mae’r newid hwn yn cael ei wneud oherwydd nad oes gennym ar hyn o bryd y nifer o feddygon strôc arbenigol i ddarparu gwasanaeth diogel yn y ddau ysbyty.
"Bydd pob un o’n hadrannau achosion brys yn parhau i ddarparu triniaeth frys gychwynnol i unrhyw glaf sy’n dod i’r ysbyty â strôc neu gydag amheuaeth o strôc."
"Yna bydd cleifion sydd angen triniaeth a gofal mwy dwys yn cael eu trosglwyddo mewn ambiwlans pwrpasol i'r uned strôc acíwt ganolog yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg."
Ychwanegodd y llefarydd: "Mae gwneud y newid hwn yn golygu y gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf barhau i ddarparu gwasanaeth sy'n achub bywydau ac yn lleihau effeithiau dinistriol strôc i gynifer o gleifion â phosibl."