Cyfraddau llog yn aros ar 4.75%
Mae cyfraddau llog y DU wedi aros ar 4.75%, gyda chwyddiant cynyddol a thwf cyflogau yn perswadio llunwyr polisi Banc Lloegr i beidio newid cyfraddau, yn ôl arbenigwyr.
Daw’r penderfyniad ddiwrnod ar ôl i ffigurau newydd ddangos bod chwyddiant y DU wedi cynyddu ym mis Tachwedd am yr ail fis yn olynol.
Roedd cost teithio ar drên, petrol, ac adloniant byw ymhlith y rhai i gynyddu fis diwethaf, yn ogystal â bwydydd bob dydd fel menyn ac wyau.
Mae cyfraddau llog, sy’n dylanwadu ar faint mae banciau’n ei godi am fenthyciadau a morgeisi, yn cael eu defnyddio fel arf gan y banc canolog i gadw chwyddiant ar ei lefel darged o 2%.
Ond mae chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi codi uwchlaw’r targed yn ystod y misoedd diwethaf, gan godi i 2.3% ym mis Hydref a 2.6% ym mis Tachwedd.
Roedd y Banc wedi "ystyried" torri cyfraddau llog fis Rhagfyr, gyda thri allan o naw aelod o'r pwyllgor sydd yn gosod y cyfraddau o blaid ei gwtogi i 4.5%.
Mae'r hollt yn awgrymu y gallai'r cyfraddau ostwng fis Chwefror yn dilyn cyfarfod nesaf y Banc.
Dywedodd prif ddadansoddwr buddsoddi'r cwmni Charles Stanley, Rob Morgan, fod ansicrwydd cynyddol ynghylch y rhagolygon economaidd yn golygu y bydd y Banc “yn wyliadwrus o lacio gormod yn rhy fuan”.
“Yn enwedig nawr gallai polisïau cyllidol sy'n cael eu datgelu yn y Gyllideb ychwanegu at chwyddiant yn y Flwyddyn Newydd,” meddai.
“Mae’n edrych yn debyg y bydd y costau ychwanegol i gyflogwyr ar ffurf yswiriant gwladol uwch a chodiadau isafswm cyflog yn atgyfnerthu’r duedd o gostau cynyddol yn y sector gwasanaethau.
“Er y gallai cyflogwyr gymryd peth o’r ergyd gallai llawer o’r effaith fod ar ffurf prisiau uwch i ddefnyddwyr.”