Teyrnged i ddyn a fu farw ar ôl cael ei drywanu yng Nghaerdydd
Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddyn a fu farw o’i anafiadau ar ôl cael ei drywanu yng Nghaerdydd.
Roedd James Brogan yn 43 oed ac yn dad i dri o blant.
Ymatebodd y gwasanaethau brys i adroddiadau o drywanu yn ardal Llaneirwg o'r ddinas ar ddydd Mawrth, 12 Tachwedd.
Mae teulu Mr Brogan wedi rhoi teyrngedau iddo gan ei ddisgrifio fel dyn “hael, gofalgar, meddylgar ac yn gomedïwr - roedd wrth ei fodd yn gwneud i bobl wenu a chwerthin.”
“Ni fydd James yn cael y cyfle i weld ei blant yn tyfu eu teulu eu hunain nac yn dod yn daid. Bydd neb yn chwerthin ar ei jôcs eto, rydym i gyd yn ddioddefwyr yma ac yn gorfod delio â cholled enfawr.
“Mae ein teulu, teulu estynedig a ffrindiau wedi cael ein heffeithio… gobeithio y cawn gofio’r amseroedd da yng nghwmni James.”
Mae Georgie Tannetta, dyn 20 oed o ardal Trowbridge, wedi pledio’n ddieuog i lofruddiaeth a bod â chyllell yn ei feddiant.
Fe fydd ei achos llys ar 19 Mai, 2025.