Newyddion S4C

Mam i bedoffeil oedd yn blismon wedi ei charcharu am wyrdroi cwrs cyfiawnder

17/12/2024
Lewis a Rebekah Edwards

Mae mam i gyn blismon o Ben-y-bont ar Ogwr wedi ei charcharu am wyrdroi cwrs cyfiawnder, wedi i'w mab gael dedfryd o garchar am oes am droseddau rhyw yn erbyn plant. 

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Rebekah Edwards, 48 oed, wedi cuddio tystiolaeth mewn bedd cath. 

Roedd ei mab Lewis Edwards, 25 oed, yn wreiddiol o Gefn Glas, ym Mhen-y-bont wedi ceisio denu mwy na 200 o ferched ar gyfrwng Snapchat. 

Roedd Edwards, cyn blismon o Heddlu De Cymru wedi esgus ei fod yn lanc yn ei arddegau er mwyn targedu merched rhwng 10 ac 16 oed gan eu hannog i rannu delweddau anweddus o'u hunain. 

Y llynedd, plediodd yn euog i 160 o achosion o gamdrin rhywiol a blacmel a oedd yn cynnwys 4,500 o ddelweddau anweddus o blant.  

Yn ddiweddarach, cafodd Edwards a'i fam Rebekah eu cyhuddo o wyrdori cwrs cyfiawnder drwy guddio tystiolaeth rhag yr heddlu. 

Bedd cath

Mewn un achos, cafodd ffôn ei chladdu mewn bedd cath.  

Cafodd y fam a'r mab eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.

Cafodd Lewis Edwards ddedfryd o ddwy flynedd ac wyth mis o dan glo am fod â rhagor o ddelweddau anweddus yn ei feddiant a 12 mis am wyrdroi cwrs cyfiawnder. 

Bydd y dedfrydau hynny yn cyd-redeg â'i ddedfryd oes flaenorol am gamdrin rhywiol.  

Cafodd ei fam, Rebekah Edwards ddedfryd o garchar am ddwy flynedd, a bydd angen iddi dreulio hanner y cyfnod hwnnw o dan glo. 

Yn ôl y barnwr, Tracey Lloyd-Clarke, roedd trosedd Rebekah Edwards yn "rhy ddifrifol i ystyried unrhyw opsiwn heblaw dedfryd o garchar." 

Ymddangosodd Lewis Edwards yn y gwrandawiad dydd Mawrth o garchar Parkhurst.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.