Newyddion S4C

Merch 17 oed o Gonwy yn canu deuawd gydag Aled Jones er cof am ei diweddar chwaer

Aled Jones ac Efa Dafydd

Mae merch 17 oed o Gonwy wedi ymuno â’r canwr Aled Jones ar gyfer deuawd er cof am ei chwaer iau a fu farw yn 13 oed.

Cynhaliwyd y perfformiad teimladwy yn hosbis plant Tŷ Gobaith yn Nyffryn Conwy lle bu farw Mabli, chwaer Efa Dafydd.

Ffilmiwyd yr achlysur fel rhan o bennod arbennig o Canu Gyda Fy Arwr ar S4C, a fydd yn cael ei darlledu am 19:00 ar Ddydd Nadolig.

Mae Efa, sy'n fyfyrwraig Safon Uwch yn Ysgol Dyffryn Conwy, bellach yn gefnogwr enfawr i Tŷ Gobaith sy'n gofalu am blant â salwch angheuol sy'n peryglu bywyd ac yn cefnogi teuluoedd yn eu galar.

Cafodd Efa a'i theulu gyfle i ddefnyddio ystafell Pluen Eira yr hosbis - lle tawel sy’n rhoi cyfle i deuluoedd ffarwelio â'u plant – wedi marwolaeth ei chwaer Mabli yn 13 oed yn 2022.

Mae Aled Jones, sydd wedi rhyddhau dros 40 albwm mewn 50 mlynedd ac wedi gwerthu dros 10 miliwn o recordiau, yn ogystal â derbyn MBE am ei wasanaeth i gerddoriaeth a darlledu ac elusennau yn 2013, wedi bod yn un o noddwyr yr hosbis ers 20 mlynedd.

Mae Canu Gyda Fy Arwr yn rhoi cyfle i bobl wireddu eu breuddwydion o rannu'r llwyfan gydag eicon cerddorol Cymreig.

Byddant hefyd yn cael cyngor gan ddau arall o brif berfformwyr Cymru wrth i’r gantores Bronwen Lewis a'r tenor Rhys Meirion gyflwyno’r rhaglen.

Profiad emosiynol

Bydd y bennod ar Ddydd Nadolig yn gweld Efa ac Aled, a aned ym Mangor a’i fagu ar Ynys Môn, yn perfformio hoff gân Mabli, Hafan Gobaith, yng nghanol golygfeydd yr ardal gerllaw Tŷ Gobaith.

Dywedodd Efa: "Roedd o'n brofiad emosiynol iawn mynd nôl i Tŷ Gobaith gyda'r camerâu yn ffilmio a chofio'r tro diwethaf i fi fod yno, ond roedd hefyd yn gysylltiad ro'n i'n rhannu gyda Mabli, ac rwy'n teimlo ei fod o’n rhyw fath o aduniad." 

Mae Efa, sy'n mynychu Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst ond wedi canu ar ei phen ei hun unwaith y llynedd mewn sioe gerdd yn yr ysgol.

Ychwanegodd Efa: "Ro'n i'n nerfus iawn, yn enwedig ar ôl i fi sefyll wrth ymyl Aled, ond fe wnaethon ni ymarfer gyda'r cyflwynwyr, y gantores Bronwen Lewis a'r canwr opera Rhys Meirion, cyn ffilmio go iawn. I fod yn onest, dydw i ddim wedi clywed fy hun yn canu eto ac felly bydd Dydd Nadolig yn syrpreis go iawn. Felly fedra i ddim dweud wrthych a oedd yn dda ai peidio!

"Dechreuais ganu am y tro cyntaf ar ôl colli fy chwaer. Mi wnaeth mam a minnau ddarganfod llawer o ganeuon Cymraeg newydd, ac roedd yn help mawr i'r daith galar oherwydd roeddem yn gallu uniaethu â'r geiriau.

"Ar ôl colli fy chwaer, dechreuais edrych i fyny at Aled oherwydd ei haelioni a'i garedigrwydd. Mae'n amlwg yn helpu Tŷ Gobaith gymaint.

"Roedd yn brofiad bythgofiadwy iawn. Mae Tŷ Gobaith yn edrych dros Afon Conwy lle magwyd fy chwaer a minnau. Byddem yn aml yn dawnsio efo'n gilydd a chael partïon ystafell wely ond nid oedd llawer o ganu yn mynd ymlaen. Hi oedd yr un doniol ac mi fyddai wedi tynnu fy nghoes yn ddi-baid petai hi wedi fy ngweld i'n canu ar y teledu!"

Dim atebion

Bu farw Mabli yn sydyn ar 2 Ebrill 2022. Nid yw profion wedi gallu darganfod achos y farwolaeth, gan adael y teulu heb unrhyw atebion.

"Dim ond blwyddyn oedd rhyngon ni ac felly wrth dyfu fyny, roedden ni'n debycach i efeilliaid," meddai Efa, sydd wedi codi arian i'r hosbis gan cynnwys ras dractors a gododd £8,600.

"Roedd yn gyfnod anodd iawn ac mae'n dal yn anodd,” meddai Efa.

“Mae dwy ffordd o edrych ar hyn. Er nad oes esboniad, rydym yn falch na welsom hi'n dioddef salwch. Rydym yn ceisio edrych ar y pethau cadarnhaol.

"Ar ôl marwolaeth fy chwaer, yn lle bod Mabli yn cael ei chadw yn yr ysbyty, cynigiodd hosbis Tŷ Gobaith le i ni yn ystafell Pluen Eira. Mi wnaethon nhw ofalu amdani rhwng y diwrnod y bu hi farw a'i hangladd, gan wneud ei gwallt yn dlws a chwarae ei hoff ganeuon, ac un ohonynt oedd Hafan Gobaith. Dyna pam y dewiswyd y gân ar gyfer y rhaglen.

"Fyddai dweud diolch byth yn ddigon i mi. Gwnaeth Tŷ Gobaith bopeth yn eu gallu i helpu a hyd yn oed rwan, maen nhw'n dal i ofalu amdanom ni.

"Un o'r pethau wnaeth frifo fwyaf ar y dechrau oedd methu codi o'r gwely. Mae'n rhywbeth sydd wedi glynu gyda fi oherwydd erbyn hyn, yr unig bwrpas dwi'n teimlo mewn bywyd yw helpu pobl ac ro'n i wir eisiau helpu Tŷ Gobaith fel y gallwn barhau i’w chofio."

Yn y perfformiad, mae Efa ac Aled yn canu i gasgliad bach o deulu, ffrindiau a chefnogwyr yr hosbis.

Bydd Canu gyda Fy Arwr: Aled Jones hefyd yn gweld Aled yn dychwelyd i'w wreiddiau ac yn synnu ei ffrind a'i gyfeilydd Anette Bryn Parry yn ei hen Ysgol Sul yn Llandegfan, Ynys Môn, lle byddant yn cael eu diddanu trwy wrando ar berfformiad arbennig o gân enwog Aled, Walking in the Air, yn cael ei chanu fel deuawd gan ddau aelod ifanc o Gadeirlan Bangor, yn Gymraeg.

Hefyd ar raglen Canu gyda Fy Arwr: Aled Jones, mi fydd y canwr opera Rhys Meirion, sy'n hanu o Borthmadog ac sydd bellach yn byw ym Mhwllglas, yn canu deuawd am y tro cyntaf erioed gydag Aled ar Draeth Penmon.

Bydd Canu Gyda Fy Arwr: Aled Jones yn darlledu ar S4C am 19:00 ar Ddydd Nadolig. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.