Ci wedi marw a dau berson yn yr ysbyty yn dilyn ffrwydrad ar gwch
Cafodd dau berson eu cludo i’r ysbyty tra bod ci wedi marw yn dilyn ffrwydrad ar gwch yn ardal Wrecsam nos Sadwrn.
Cafodd Gwasanaeth Tân y Gogledd eu galw i gamlas ar farina Y Waun am 18.10 yn dilyn ffrwydrad nwy ar gwch bleser.
Roedd dau bwmp o Orsaf Dân Wrecsam ac uned achub dŵr Dyfrdwy ar y lleoliad i geisio diffodd y tân.
Fe wnaeth y tân ymledu i gwch camlas 40 droedfedd.
Fe wnaeth dau berson lwyddo i ddianc rhag y ffrwydrad ond fe gafwyd eu cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans ar ôl ddioddef man anafiadau.
Cafodd y cwch bleser ei ddinistrio’n gyfan gwbl cyn suddo, tra bod ci oedd ar fwrdd y cwch wedi marw yn y ffrwydrad.
Fe gafodd y cwch gamlas ei ddifrodi'n ddifrifol gan y tân, ond fe wnaeth y criwiau tân lwyddo i atal iddo rhag lledaenu ymhellach.
Lluniau: Gorsaf Dân Wrecsam