Powys: Lansio ymchwiliad i ymgais i lofruddio ar ôl i ddyn ddioddef anafiadau difrifol
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi lansio ymchwiliad i ymgais i lofruddio ar ôl i ddyn ddioddef anafiadau difrifol.
Cafodd y gwasanaeth ambiwlans eu galw i eiddo yn Llethyr Bryn yn Llandrindod ychydig cyn 20.20 nos Sadwrn.
Roedd adroddiadau fod y dyn wedi dioddef anafiadau difrifol.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Mae tîm yr ymchwiliad yn apelio am wybodaeth ac maen nhw siarad ag unrhyw un a welodd y digwyddiad neu a allai helpu i adnabod y person sy'n gyfrifol.
"Os ydych yn byw yn yr ardal ac wedi gweld neu glywed unrhyw ymddygiad amheus neithiwr, cysylltwch â ni.
"Gallwch chi wneud hyn trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 306 o 14 Rhagfyr."
Llun: Google