Rhybudd am lefelau uchel o Covid-19 yn Sir y Fflint

20/07/2021
Arwydd Sir y Fflint

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi annog pobl i wneud “popeth o fewn eu gallu” i fod yn gyfrifol yn sgil cynnydd mewn achosion Covid-19 yn yr ardal.

Dywed y cyngor fod tîm Profi Olrhain Diogelu’r sir wedi ymateb i “niferoedd uchel o achosion positif”.

Roedd cyfradd achosion Covid-19 fesul 100,000 o bobl yn 292.8 yn Sir y Fflint rhwng 9 a 15 Gorffennaf, gyda’r gyfradd ar gyfartaledd yng Nghymru yn 185.5.

Sir y Fflint a welodd yr ail nifer fwyaf o achosion yn ystod y cyfnod hwn, gyda 457 o achosion newydd, tra bod Caerdydd ar y blaen wedi cofnodi 705 achos. 

Dywed y cyngor fod 726 o bobl wedi profi’n bositif yn y sir rhwng y 5 a 15 Gorffennaf, gyda 1903 yn hunan-ynysu am iddynt ddod i gysylltiad agos.

Ychwanegodd lefarydd: “Wrth i gyfyngiadau lacio yn raddol, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddilyn y canllawiau a chofio nad yw COVID-19 wedi diflannu.

“Hyd yn oed os ydym wedi cael ein brechu, mae’n rhaid i ni gyd barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i fod yn barchus ac yn gyfrifol er mwyn cadw lefelau heintio i lawr yn Sir y Fflint a chadw ein hunain ac eraill yn ddiogel.”

Maen nhw’n atgoffa’r cyhoedd o ganolfannau brechu'r sir, yn Neuadd Ddinesig Cei Connah, Ystad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, a Maes Parcio Stryd y Capel yn y Fflint.

Bydd canolfan brofi symudol yn agor yng Nghanolfan Gymunedol Holway, Treffynnon ddydd Mercher.

Beth am weddill Cymru?

Cafodd 555 achos newydd o Covid-19 eu cadarnhau yng Nghymru ddydd Mawrth, gan ddod a chyfanswm yr achosion i 233,227 ers dechrau’r pandemig.

Ni chafodd yr un farwolaeth newydd ei chofnodi, gyda nifer y marwolaethau yn aros yn 5,589.

Mae’r gyfradd ar ei huchaf yn Sir Ddinbych (460.8), Wrecsam (333.2), Conwy (332.8) a Sir y Fflint (292.8).

Llun: Dunnock D 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.