Dwy ddynes yn yr ysbyty ar ôl i atyniad mewn Ffair Nadolig ddymchwel
13/12/2024
Mae dwy ddynes yn yr ysbyty yn Birmingham ar ôl i atyniad mewn Ffair Nadolig ddymchwel.
Fe gafodd 13 o bobl eu gweld gan Wasanaeth Ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr, gyda dau berson yn cael eu cludo i ysbyty yn y ddinas.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans nad yw anafiadau y ddau sydd wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn peryglu bywyd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 19:30 ddydd Iau.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân fod "y digwyddiad yn ymwneud ag atyniad ffair a wnaeth fethu.
"Fe ddisgynodd yr atyniad i'r llawr tra'n gweithredu."