Cyhoeddi lluniau newydd o fam 35 oed sydd wedi bod ar goll ers pum mis
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi lluniau newydd o fam 35 oed sydd wedi bod ar goll ers bron i bum mis.
Fe wnaeth Heddlu De Cymru ryddhau llun newydd o Charlene Hobbs mewn eiddo yng Nghaerdydd a gafodd ei dynnu ar 24 Gorffennaf.
Mae gwallt a thatŵ o ddraig i’w gweld ar gefn Charlene, ac mae hi’n gwisgo’r un crys-t a’r diwrnod cynt pan gafodd ei gweld ar luniau teledu cylch cyfyng yn Morrisons yn Moira Place, Waundda.
Mae'r llun newydd wedi'i wirio fel un a dynnwyd yn Broadway, Waundda am 6.07 ar 34 Gorffennaf.
Mae dadansoddiad pellach o ffonau symudol yn dangos y gallai Charlene, o Lan yr Afon yng Nghaerdydd, fod wedi bod yn anfon negeseuon testun a ffonio pobl yr oedd yn ei hadnabod yn ddiweddarach y noson honno, o bosib er mwyn cwrdd.
Dywedodd swyddogion eu bod nhw yn ymchwilio i gysylltiad â'r Fenni a Nissan Micra coch nodedig a gafodd ei ddarganfod wedi'i losgi.
Cafodd y Nissan Micra llosgedig ei ddarganfod yng Nghlos San Helen yn Y Fenni ar Hydref 29. Roedd y car hwn yn goch yn wreiddiol ond roedd wedi’i baentio’n ddu.
Mae dau ddyn 45 a 43 oed a dynes 38 oed a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r ymchwiliad ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad pellach yn cael ei gynnal.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell o Heddlu De Cymru bod y llu yn apelio am unrhyw wybodaeth am Charlene Hobbs.
“Mae Charlene yn fam, yn chwaer, yn ferch, ac yn ffrind i lawer," meddai.
"Fel ni, maent i gyd yn bryderus iawn am ei lles ac yn ysu am atebion.
“Mae yna sawl esboniad posib am ddiflaniad Charlene, ac rydyn ni’n cadw meddwl agored wrth i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sefydlu beth sydd wedi digwydd iddi.
“Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y galwadau a’r negeseuon hyn, neu a allai fod wedi cyfarfod â Charlene ar noson Gorffennaf 24, 2024, i ddod ymlaen.
“Rydym yn credu bod yr atebion yn y gymuned a byddwn yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â’r heddlu.”