Newyddion S4C

Mark Drakeford yn amddiffyn arwyddion Cymraeg yn unig ar yr M4

12/12/2024
Mark Drakeford a'r M4

Mae Mark Drakeford wedi amddiffyn dangos arwyddion electronig Cymraeg yn unig ar draffordd yr M4.

Roedd y cyn brif weinidog sydd bellach â chyfrifoldeb dros y Gymraeg yng nghabinet y llywodraeth yn ymateb i bryderon gan un o aelodau’r Ceidwadwyr.

Dywedodd Natasha Asghar nad oedd hi’n “ymosod ar y Gymraeg” drwy godi pryderon ond bod angen arwyddion dwyieithog “fel mater o ddiogelwch”.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau, meddai, nad oedd yn bosib cynnwys neges Saesneg ar bob arwydd digidol ar yr M4.

Roedd hynny oherwydd diffyg lle neu nam ar rai o’r arwyddion, ac fe fyddwn nhw’n cael eu hailosod os oedd cyllid ar gael.

“Pan godais y mater o arwyddion digidol Cymraeg yn unig ar yr M4 yn ddiweddar, fe ddywedoch chi ei fod yn swnio fel chwedl,” meddai yn y Senedd ddydd Mercher.

“Rwy'n meddwl y gall y ddau ohonom gytuno nad chwedl drefol mohono. 

“Felly, a wnewch chi edrych ar y mater hwn ac ymrwymo i weithio gyda chydweithwyr i sicrhau bod cyllid yn cael ei ryddhau ar frys i atgyweirio'r arwyddion diffygiol hyn?”

Wrth ymateb dywedodd Mark Drakeford nad oedd yn cytuno â “bwrdwn” y cwestiwn sef bod arwyddion Saesneg yn unig yn fwy pwysig na rhai Cymraeg yn unig.

“Nid yw'n wahanol i mi a oes yn rhaid i rywun y byddai'n well ganddo gael ei wybodaeth yn Gymraeg ddibynnu'n gyfan gwbl ar arwydd ffordd Saesneg, nag ydyw os bydd rhywun sy'n well ganddo gael ei wybodaeth yn Saesneg yn gweld arwydd yn Gymraeg,” meddai.

“Mae’r ddwy iaith o statws cyfartal a gwerth cyfartal yma yng Nghymru. 

“Ac nid wyf yn cytuno â'r hyn rwy'n parhau i'w gredu yw byrdwn y cwestiwn - sef, rywsut, ei bod yn bwysicach cael arwydd yn Saesneg nag yw cael un yn Gymraeg.”

Daw'r drafodaeth wedi i Natasha Asghar ddweud ym mis Hydref iddi dderbyn "nifer digynsail o adroddiadau diweddar gan etholwyr yn datgelu bod arwyddion Cymraeg yn unig wedi bod ar yr M4 ar sawl achlysur".

Galwodd ar Lywodraeth Cymru i "sicrhau bod negeseuon dwyieithog, nid uniaith, yn cael eu hyrwyddo bob amser".

Ymatebodd Mark Drakeford bryd hynny bod hynny'n "swnio fel chwedl i mi".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.