'Oeddach chi’n fwy nag athro': Cyn-ddisgyblion yng Ngwynedd yn diolch i’w pennaeth
Mae cyn ddisgyblion ysgol yng Ngwynedd wedi cwrdd â’u cyn brifathro i nodi deugain mlynedd ers llwyddiant "bythgofiadwy" yn Eisteddfod yr Urdd.
Dan arweiniad y pennaeth, Mr Ken Hughes, fe enillodd Ysgol Talysarn y gystadleuaeth Cân Actol yn Eisteddfod yr Urdd 1984 yn yr Wyddgrug.
Dywedodd aelod o’r corawl, Carina Roberts: “O’n i’n berson swil yn yr ysgol ond dwi’n cofio cael y cyfle yn y gân actol.
“Oeddan ni ar y llwyfan ag oni’n meddwl ‘wow, da ni wedi neud rwbath yn fama.’ Dwi’n cofio’r teimlad o fod mor prowd.
“Odd Ken Hughes yn edmygu pawb ac yn trin pawb yr un peth, dim otch pa gefndir oedd gennych chi. Oedd o mwy fatha ffrind na athro.”
Fe wnaeth Mr Hughes, o Lanllyfni, ymddeol yn 2011 ar ôl gyrfa o dros 40 mlynedd fel athro.
Roedd yn athro yn Aberystwyth, Ysgol Llanrug ac Ysgol Talysarn, cyn treulio 21 mlynedd yn bennaeth ar Ysgol Eifion Wyn ym Mhorthmadog.
‘Dylanwad’
Dywedodd un o’i gyn-disgyblion yn Nhalysarn, Dylan Evans, bod ei gyn brifathro yn “asgwrn cefn” iddo wrth iddo brofi cyfnod anodd yn ei blentyndod.
“Dwi erioed di anghofio am Ken achos mae ei ddylanwad o di cario efo fi trwy mywyd i gyd,” meddai Mr Evans, wrth siarad ar gyfres Gwesty Aduniad.
“Nesh i symud i Lanllyfni pan on i tua 10 oed achos odd mam a dad wedi gwahanu. Nath o roid lifft i fi un bora ar ôl gweld fi’n stryglo ar y beic.
“Mi oedd hi’n amsar reit ryff a'r unig berson on i’n gallu siarad amdan petha efo odd Mr Hughes. Mi oedd Ken yn shoulder to cry on. Neud fi deall am fywyd ar ôl tristwch a ballu, ac yn asgwrn cefn, a ddim just i fi.
“Chesh i erioed y cyfle i ddiolch iddo fo pan on i’n hogyn bach.”
‘Rhoi diwylliant Cymraeg’
Yn y bennod ddiweddaraf o Gwesty Aduniad, mae criw o gyn ddisgyblion yn cael y cyfle i gwrdd â’u gyn brifathro unwaith eto, 40 mlynedd ers dod at ei gilydd ar gyfer y gân actol o’r enw Teulu Ni.
Dywedodd Mr Hughes: “Dwi di gwneud caneuon actol fwy neu lai ers pan on i yn Nhalysarn. On i isho rhoi diwylliant Cymraeg i chi - o lle ti 'di dod - ma hynny’n bwysig.
“Mi oedd y plant yn mwynhau a mae’n bwysig bod plant yn cael hynny. Teulu Ni, na’i byth anghofio huna.
Dywedodd Ms Roberts: “Dwi’n cofio dod off y bys a chyrraedd sgwâr Talysarn a roedd yr holl bobl yn aros amdanon ni.
“Odd o’r teimlad mwya sbeshial, oni’n teimlo tha seleb - oedd pentra i gyd yna. Doedd neb di clywad am bentre’ Talysarn llu.”
Yn ystod yr aduniad, dywedodd Mr Evans wrth Mr Hughes: “Oeddach chi’n fwy nag athro. Pan oeddach chi’n rhoi lifft i fi yn y car, be bynnag oeddwn i’n deud yn y car, oedd o’n aros yna.
“A wnaethoch chi helpu fi allan cyn gymaint. Ma hynny’n dod o’r galon. Diolch yn fawr iawn i chi.”
Ychwanega Mr Hughes: “Dim bob amsar ti’n clywad yn gyhoeddus 'dyma ydi Ken Hughes, dyma be mae o di ‘neud i ni. Dyma da ni’n werthfawrogi a nawn ni byth anghofio amdano fo.' Be arall fedar athro ofyn de? Dim. “
Mae Gwesty Aduniad ar gael i wylio ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer.