Newyddion S4C

Storm Darragh: Gohirio digwyddiadau wrth i rybudd tywydd newydd ddod i rym

06/12/2024
Llifogydd Caernarfon

Mae digwyddiadau wedi cael eu gohirio wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar gyfer y rhan helaeth o Gymru ddydd Gwener yn sgil Storm Darragh.

Mae’r rhybudd mewn grym ym mhob sir yng Nghymru, heblaw am Ynys Môn a Sir Benfro, rhwng 15:00 ddydd Gwener a 12:00 ddydd Sadwrn.

Mae’r Swyddfa Dywydd eisoes wedi cyhoeddi y bydd rhybudd oren am wyntoedd cryfion yn dod i rym i ran helaeth o Gymru ddydd Sadwrn. 

Mi fydd y rhybudd yn weithredol rhwng 03:00 a 21:00 ddydd Sadwrn.

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu gohirio yn sgil y tywydd stormus, gan gynnwys y rhai canlynol:

  • Parêd Llusernau Anferth Aberteifi
  • Parêd Nadolig Llandudno
  • Ffair y Gaeaf ym Margoed
  • Parêd Llusernau Nadolig Mynwy
  • Digwyddiadau’r Nadolig yn Llantrisant ac Aberpennar
  • Gorymdaith Siôn Corn ym Mrynaman
  • Cyngerdd Côr Cynhaearn ym Mwllheli

Bu'n rhaid cau nifer o ffyrdd nos Iau gan gynnwys yr A470 rhwng Betws-y-Coed a Phentrefoelas a’r A525 rhwng Trefnant a Dinbych, Ffordd Santes Helen tuag at y twnel yng Nghaernarfon a Phont Hafren.

Cafodd rhybudd melyn arall am wynt oedd mewn grym ar gyfer y gogledd yn unig, ei hymestyn i Gymru gyfan rhwng 15.00 ddydd Iau tan 03.00 fore Gwener. 

Daw wedi i’r Swyddfa Dywydd eisoes gyhoeddi rhybudd melyn arall am wynt a glaw i Gymru gyfan a fydd yn para trwy’r penwythnos. 

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio fod posibilrwydd i wasanaethau rheilffyrdd, awyr a fferi gael eu heffeithio. 

Gall rhai adeiladau wynebu difrod hefyd yn sgil y tywydd, gyda rhai cartrefi a busnesau yn profi llifogydd o bosib yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae'n bosib hefyd y bydd y tywydd yn effeithio ar gyflenwadau trydan. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi nifer o rybuddion llifogydd ddydd Gwener gan gynnwys 5 rhybudd - angen gweithredu ar frys a 31 rhybudd - byddwch yn barod.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynghori teithwyr i wirio trefniadau cyn teithio dros y diwrnodau nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.