Newyddion S4C

Cynnydd 'o dros 450% mewn tanau gwyllt' yn y de ar ddechrau 2025

Tanau gwyllt

Roedd cynnydd o 483% mewn tanau gwyllt yn ne Cymru rhwng Ionawr a Mai 2025 o gymharu â'r un cyfnod y llynedd, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod nhw wedi cael eu galw i 928 o danau gwyllt mewn cyfnod o bum mis. 

Mae hynny 769 yn fwy na'r un cyfnod yn 2024. 

Yn ôl y gwasanaeth tân, mae'r cynnydd sylweddol wedi rhoi pwysau mawr ar griwiau a thimau cymorth.

Dywedodd Matt Jones, Pennaeth Gweithrediadau'r Gwasanaeth:“Mae eleni eisoes wedi bod yn heriol dros ben.

"Mae maint ac amlder y tanau gwyllt wedi bod yn straen ar ein hadnoddau a’n pobl. 

"Ond diolch i ymrwymiad a phroffesiynoldeb ein criwiau a staff yr ystafell reoli, rydym wedi ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i amddiffyn ein cymunedau.

Ychwanegodd: "Mae’r cynnydd mewn digwyddiadau yn dilyn tywydd cynnes a sych yn gynnar yn y gwanwyn, gan olygu bod glaswelltiroedd a llystyfiant yn agored i danau gychwyn.

"Digwyddodd llawer o'r digwyddiadau ar dir comin, llethrau, a mannau coediog, llefydd sy'n aml yn anodd eu cyrraedd ac yn beryglus i fynd i'r afael â nhw."

Image
Criwiau yn brwydro un o'r 928 o danau hyd yma eleni
Criwiau yn brwydro un o'r 928 o danau hyd yma eleni. (Llun: Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru)

'Mynd i'r afael â throseddau tân'

Credai'r gwasanaeth tân bod cyfran "sylweddol" o danau gwyllt yn ne Cymru yn cael eu cynnau'n fwriadol.

Maen nhw'n gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent i ymchwilio i danau maen nhw'n credu sy'n cael eu cynnau'n fwriadol.

Er mwyn ceisio mynd i'r afael â diogelwch tanau gwyllt a cheisio atal tanau'n cael eu cynnau'n fwriadol, mae Gwasanaeth Tân De Cymru yn ceisio addysgu'r genhedlaeth nesaf o'r peryglon a risgiau.

Mewn un digwyddiad yng Nghwmbrân, bu’r Gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth gyda Animals Interactive a Heddlu Gwent i gyflwyno sesiynau addysg tanau gwyllt yn dilyn cyfres o danau bwriadol.

Mynychodd mwy na 1,500 o blant o ysgolion lleol a grwpiau ieuenctid y sesiynau, a oedd yn cyfuno adrodd straeon, dysgu ymarferol, ac arddangosiadau gydag anifeiliaid byw.

“Mae cynnau tanau’n fwriadol yn drosedd ddifrifol," meddai Matt Jones.

"Mae’n peryglu bywydau, yn dinistrio cynefinoedd, ac yn defnyddio adnoddau brys y gallai fod eu hangen mewn mannau eraill.

"Mae ein Timau Lleihau Llosgi Bwriadol yn gweithio gyda’r heddlu i ymchwilio i’r digwyddiadau hyn a chymryd camau cadarn lle bo angen.

"Gyda’n gilydd, gallwn leihau’r bygythiad o danau gwyllt a chadw ein cymunedau’n ddiogel.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.