
Aros yng Nghymru neu groesi’r Ffin? Dyfodol rygbi Cymru heb system yr alltudion
Aros yng Nghymru neu groesi’r Ffin? Dyfodol rygbi Cymru heb system yr alltudion
Wrth i system alltudion Undeb Rygbi Cymru dod i ben mae rhai yn pryderu dros ddyfodol rygbi yn y wlad.
Un chwaraewr ifanc sydd wedi mentro dros y ffin yw Math Jones o Sir Gaerfyrddin.
Dechreuodd chwarae gyda chlwb Penybanc yn Rhydaman, ond fel sawl chwaraewr ifanc arall, fe gafodd ei ddenu dros y ffin – a hynny gyda’r Harlequins.
“Mae’r Harlequins wedi cynnig cytundeb tri mis i fi, ac wedyn maen nhw’n mynd i’m anfon i Hartpury ym mis Medi i ddatblygu ymhellach," meddai'r maswr wrth Newyddion S4C.
“Mae gyda nhw Marcus Smith, Jarrod Evans a Jamie Benson, felly maen nhw wedi dweud y byddai mynd i Brifysgol Hartpury i chwarae BUCS Super Rugby er mwyn profi rygbi o’r safon uchaf yn gam da.”
Cynnig, felly, i chwarae’n broffesiynol – ond hefyd cyfle i ddatblygu’n bersonol drwy barhau â’i astudiaethau.
“Mae BUCS Super Rugby yn safon uchel, ac mae mynd a phrofi’r awyrgylch yna yn y brifysgol hefyd yn grêt."

A Lloegr yn gwneud defnydd effeithiol o’r system rygbi prifysgolion, o’i gymharu â Chymru.
“Fi’n credu bod Cymru’n trio rhoi pwyslais ar y Super Rugby," meddai.
“Ond ti’n gweld chwaraewyr fel Alex Dombrandt. Doedd dim academi gyda fe o gwbl – roedd e’n chwarae i Met Caerdydd yn BUCS, ac wedyn gwnaeth yr Harlequins arwyddo fe.
"Mae angen i Gymru roi mwy o bwyslais ar rygbi BUCS.”
Gwrthwynebiad
Gyda llu o chwaraewyr o Gymru yn chwarae rygbi yn Lloegr a thu hwnt, roedd cadw cysylltiad â’r rheini yn strategaeth bwysig i Undeb Rygbi Cymru.
Cafodd system yr alltudion ei sefydlu gan Undeb Rygbi Cymru yn 1980. Y bwriad oedd targedu, recriwtio a datblygu chwaraewyr oedd yn gymwys i chwarae dros Gymru, ond yn byw neu’n mynychu ysgolion a phrifysgolion y tu allan i Gymru – yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Mae hyn yn cynnwys chwaraewyr ‘elît’ hŷn sydd â’r potensial i chwarae rygbi i'r rhanbarthau ac i’r tîm cenedlaethol.
Ond mae Undeb Rygbi Cymru yn dod â’r cynllun yn ei ffurf bresennol i ben.
Mae Angus Jenkins – un o’r rhai fu’n gweithio fel rhan o’r system – yn gwrthwynebu’r penderfyniad.
“Mae chwaraewyr fel Sam Costelow, Tommy Reffell, Taine Plumtree, Blair Murray – maen nhw i gyd wedi dod trwy’r system. Neu os nad ydyn nhw wedi dod trwyddi, maen nhw wedi cael eu monitro.”
Mae’r Undeb yn mynnu bod cynllun newydd ar y gweill.
Defnyddio Super Rygbi Cymru – sef y gystadleuaeth sydd i fod i bontio’r bwlch i chwaraewyr sy’n symud rhwng yr academïau a’r rhanbarthau yw un nod i'r cynllun newydd, ac mae cadw chwaraewyr yng Nghymru hefyd yn flaenoriaeth.
Ond anodd yw rhagweld llwyddiant y system ymysg tirlun ansefydlog rhanbarthau Cymru, yn ôl y cyflwynydd chwaraeon Lauren Jenkins.
“Dwi’n meddwl bod Super Rygbi Cymru wedi gweithio i raddau eleni," meddai.
"Ni wedi gweld chwaraewyr fel Macs Page yn disgleirio dros Lanymddyfri – hyd yn oed Ellis Mee.
"A chi’n gwybod, mae’r clwb yn cydweithio gyda’r Scarlets, a ’ni’n gweld nhw’n serennu ar lefel ranbarthol hefyd.
“Ond beth sy’n poeni fi yw bod cynghrair Super Rygbi Cymru yn seiliedig ar gael pedwar rhanbarth sy’n bwydo’r gynghrair. Ar hyn o bryd, ’dyn ni ddim yn siŵr os yw dyfodol y pedwar yn sicr.

“Felly, mewn amser lle dylen ni fod yn tynnu at ein gilydd a chydweithio – mae mwy o densiynau nag erioed.”
Cyfle i ddatblygu sydd o flaen Math Jones – yn ymarfer a chwarae gyda rhai o sêr y byd rygbi.
“Haf hyn – nawr dysgu cymaint ag sy’n bosib, gofyn cwestiynau, ac wedyn rhoi’r gwaith caled mewn ar ôl ymarfer ac ati.”
Cynllun newydd, cyfle newydd – a’r Undeb yn gobeithio sicrhau na fydd Cymru’n colli sêr y dyfodol.