David Lammy wedi dweud wrth JD Vance fod ei sylwadau am Henry Nowak 'yn anghywir'

David Lammy

Mae Dirprwy Brif Weinidog y DU, David Lammy, wedi dweud iddo ffonio Is-lywydd yr Unol Daleithiau, JD Vance, i ddweud wrtho fod ei sylwadau am lofruddiaeth Henry Nowak yn "anghywir".

Fe wnaeth Mr Vance feio marwolaeth y myfyriwr 18 oed, a fu farw ar ôl cael ei drywanu gan Vickrum Digwa ym mis Rhagfyr y llynedd, ar "fewnlifiad torfol o fewnfudwyr", gan ddweud mai'r "unig ymateb" oedd "dicter cyfiawn".

Dywedodd Mr Lammy wrth y BBC ei fod wedi siarad â Mr Vance ddydd Sadwrn, er mwyn dweud wrtho nad oes gan llofruddiaeth Mr Nowak "ddim i'w wneud â mewnfudo torfol".

Roedd y dyn oedd wedi ei drywanu, Vickrum Digwa, wedi dweud wrth yr heddlu bod Mr Nowak wedi ymosod yn hiliol arno, ond celwydd oedd hyn.

Cafodd Digwa ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio Mr Nowak ddydd Llun.

Mae’r achos wedi arwain at brotestiadau yn Southampton ar ôl i ddeunydd fideo o'r camerâu roedd yr heddlu yn eu gwisgo wrth ymateb i lofruddiaeth Mr Nowak gael ei ryddhau, gan ddangos y myfyriwr 18 oed yn cael ei roi mewn cyffion ar ôl iddo gael ei drywanu ym mis Rhagfyr.

Roedd y deunydd yn dangos Mr Nowak yn dweud wrth yr heddlu nad oedd yn gallu anadlu, cyn iddo syrthio'n anymwybodol a marw'n ddiweddarach.
 

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.