Newyddion S4C

Gwrthdrawiad yr A465: Teyrngedau i ddyn 20 oed oedd â'r 'galon fwyaf'

Ethan Powell

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn 20 oed oedd â’r “galon fwyaf” wedi iddo farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A465 ddiwedd mis diwethaf. 

Bu farw Ethan Powell o Frynmawr yn y fan a’r lle wedi i feic cwad gael ei ddarganfod gan swyddogion yr heddlu ar y ffordd rhwng Rhymni a Dowlais am tua 04.50 bore ddydd Sadwrn, 31 Mai. 

Mewn teyrnged iddo ddydd Iau, mae ei deulu wedi ei ddisgrifio fel “yr enaid mwyaf caredig” oedd a “digon o gariad i’w roi i unrhyw un yr oedd yn dod ar eu traws mewn bywyd. 

“Roedd yn gymeriad mor ddoniol, ac roedd bob amser yn llenwi ystafell gyda’i bersonoliaeth.

“Bydd yn fyw o hyd trwy ei chwiorydd Eleanor ac Isabella a bydd ein teulu’n cofio amdano bob eiliad o bob dydd.

“Mae calonnau ein teulu yn deilchion ar ôl clywed y newyddion, ac mae bywyd ifanc gyda chymaint i edrych ymlaen ato wedi cael ei gymryd yn llawer rhy fuan.

“Rydyn ni eisiau diolch i bawb am y gefnogaeth anhygoel rydyn ni wedi derbyn ers dydd Sadwrn.

“Mae’n rhoi ychydig o gysur i ni i weld mor annwyl oedd ef i bobl a chymaint roedd pobl yn meddwl ohono, ond gofynnwn am breifatrwydd yn awr i alaru yn dilyn y golled enfawr ac amhosibl yma i’n teulu.”

“Ethan; 20 oed am byth, byddwn yn ei garu am byth,” medden nhw. 

Arestio

Ar ôl arestio dau ddyn yn dilyn y gwrthdrawiad, mae Heddlu Gwent bellach wedi arestio tri dyn ychwanegol.

Cafodd dyn 43 oed o Dredegar a dyn 34 oed o Bontypridd eu harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr ac maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Cafodd dyn 41 oed o Ferthyr Tudful ei arestio hefyd ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr.

Fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra oedd swyddogion Heddlu Gwent yn cynnal eu hymchwiliadau, ond cafodd ei alw yn ôl i’r carchar mewn cysylltiad ag ymholiad arall.

Daw ar ôl i ddyn 40 oed o Ferthyr Tudful gael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a gyrru dan ddylanwad alcohol, a gyrru dan ddylanwad cyffuriau.

Cafodd ail ddyn 37 oed, hefyd o Ferthyr, ei arestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr.

Maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol wrth i ymholiadau’r heddlu barhau.

Mae Heddlu Gwent yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth neu luniau dashcam, i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2500171434.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.