Dyn 20 oed fu farw ar yr Wyddfa 'ddim yn gallu gweld y llwybr'
Roedd dyn 20 oed a fu farw ar yr Wyddfa wedi ffonio aelod o’i deulu i ddweud nad oedd yn gallu gweld y llwybr a’i fod ar goll, clywodd agoriad cwest ddydd Iau.
Roedd John Aravinth, myfyriwr meddygol o Orllewin Sussex yn Lloegr, wedi bod yn cerdded i fyny'r copa uchaf yng Nghymru gyda'i deulu fis diwethaf.
Clywodd yr agoriad cwest yng Nghaernarfon ei fod ef a’i deulu wedi penderfynu dringo i fyny o Lanberis ond bod gweddill y teulu wedi troi nôl neu aros yn yr unfan oherwydd y tywydd.
Roedd John Aravinth, o College Road, Southwater, Horsham, wedi ffonio yn ddiweddarach gan ddweud ei fod ar goll.
Dywedodd y crwner cynorthwyol Sarah Riley: "Roedd aelod o'r teulu wedi derbyn galwad gan Mr Aravinth yn dweud na allai weld dim byd, na allai weld y llwybr ac roedd ar goll.
“Ni wnaed unrhyw gyswllt pellach ar ôl hynny.”
Dechreuodd achubwyr mynydd a hofrennydd chwilio amdano wedyn.
Gwelwyd corff ar wyneb clogwyn Nant Peris ar 27 Mai. Roedd wedi dioddef anaf i’w ben.
Dywedodd Sarah Riley: "Mae’r cwest ar agor ond wedi'i ohirio tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cwblhau."