Caniatáu bar newydd ar safle siop ddillad wag yng nghanol Bangor

06/12/2024
H & M Bangor

Mae cynlluniau i ganiatáu bar newydd ar safle siop ddillad wag ar stryd fawr Bangor wedi cael eu cymeradwyo.

Mae bar newydd ym Mangor sydd wedi’i gynllunio ar gyfer stryd fawr hiraf Cymru wedi’i gymeradwyo ar gyfer trwydded eiddo gydag amodau.

Fe fydd y cwmni City Sports & Cocktail Bar yn agor ar safle siop ddillad H&M gynt. 

Daw hyn ar ôl i is-bwyllgor trwyddedu canolog Cyngor Gwynedd roi caniatâd am drwydded.

Wedi'i leoli yng Nghanolfan Menai, fe fydd y lleoliad yn darparu bar chwaraeon ar y llawr gwaelod, gan gynnwys nifer o sgriniau teledu, byrddau pŵl, byrddau dartiau rhyngweithiol a pheiriannau gemau.

Fe fydd yr ail lawr yn cynnwys bar coctels, seddi VIP a mannau cymdeithasu, bythau lluniau ac ardal ddawns.

Fe fydd y bar yn darparu bwyd steil Americanaidd trwy gydol y dydd a gyda'r nos, gan drosglwyddo i fan nos i bobl leol a myfyrwyr.

Roedd y cais wedi codi pryderon am sŵn a'i effaith posib ar drigolion lleol.

Nodwyd yn y cyfarfod y bydd y cynllun yn helpu i hybu masnach yn ystod y nos ar y stryd, sydd wedi gweld dirywiad yn y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â darparu bwyd, diodydd ac adloniant ac o bosibl hyd at 40 o swyddi.

Fe gafodd y cynnig ei gymeradwyo ar yr amod na fydd y lleoliad yn chwarae cerddoriaeth ar y stryd a bod yn rhaid cau defnydd y man allanol erbyn 21:00.

Creu swyddi

Dywedodd y cwmni yn gynharach eleni ei fod am greu “lleoliad newydd deinamig” mewn uned fanwerthu “anodd ei gosod”.

“Mae’r defnydd arfaethedig newydd fel bar chwaraeon a choctels yn cynnig ateb delfrydol ar gyfer uned gyda dau lawr o ofod manwerthu, sydd wedi profi’n heriol i lenwi’r amgylchedd manwerthu heddiw,” meddai.

Ychwanegodd y cwmni y bydd 30 o swyddi yn cael eu creu i ddechrau, gyda phosibilrwydd y bydd yn codi i 42 wrth i’r busnes dyfu.

Mae’r adeilad wedi aros yn wag ers 2020 ac mae canol dinas Bangor wedi colli sawl enw mawr arall gan gynnwys Debenhams.

Yn ôl adroddiad gan y cyngor, nid oedd Iechyd yr Amgylchedd wedi cefnogi cerddoriaeth yn cael ei chwarae’n allanol “oherwydd yr effaith ar drigolion cyfagos, a’r eiddo preswyl yn union drws nesaf ar y Stryd Fawr”.

Roedd adroddiad sŵn a gyflwynwyd fel rhan o gais cynllunio hefyd wedi datgan “na ddylid gosod uchelseinyddion allanol y tu allan”.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi Trwydded Safle i City Sports & Cocktail Bar Ltd, ym Mangor gyda chyfyngiadau sy’n cynnwys dim chwarae cerddoriaeth yn yr ardal allanol, a bod yr ardal allanol ar gau erbyn 21:00.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.