Trydydd aelod o'r un teulu wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ger Y Barri
Mae trydydd aelod o'r un teulu wedi marw ar ôl gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar ffordd yr A4050 ger Y Barri ar ddydd Sadwrn, 2 Tachwedd.
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi marwolaeth Ralph James, 67, o Benarth, yn dilyn y gwrthdrawiad.
Bu farw ei fodryb a’i gyfnither yn y fan a’r lle yn ystod y ddamwain.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr James: “Roedd ei deulu i gyd a’r gymuned ehangach oedd yn ei adnabod yn ei garu. Roedd ganddo amser i bobl bob amser ac roedd yn adnabyddus.
“Bu fyw gydol ei oes yn ardal Penarth a bu’n gweithio yn Nociau Caerdydd ers yn 18 oed.
“Roedd wrth ei fodd yn treulio ei wyliau yn ardal Dyfnaint a Chernyw a threulio amser gyda’i deulu.
“Ni all geiriau fynegi’r golled yr ydym yn ei theimlo ar hyn o bryd fel teulu, mae colli cymaint o aelodau ar un adeg yn dorcalonnus."
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad neu unrhyw un sydd â lluniau camera dashfwrdd i gysylltu gyda nhw.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod 2400365249.