Newyddion S4C

Cyn bencampwr snwcer y byd Terry Griffiths wedi marw yn 77 oed

Terry Griffiths

Mae cyn bencampwr snwcer y byd Terry Griffiths wedi marw yn 77 oed.

Bu farw Mr Griffiths, o Lanelli, ar ôl cyfnod hir o fyw gyda dementia.

Dywedodd ei deulu mewn datganiad ei fod wedi marw ddydd Sul gyda'i ffrindiau a'i deulu o'i gwmpas.

"I'n ffrindiau a chefnogwyr snwcer yn gyffredinol, rydym yn drist iawn wrth rannu'r newyddion am ein colled.

"Bu farw Terry Griffiths OBE yn heddychlon ar 1 Rhagfyr, ar ôl brwydr hir gyda dementia. Roedd ei ffrindiau a'i deulu o gwmpas yn ei bentref genedigol yn ne Cymru.

"Yn Gymro balch, cafodd Terry ei eni yn Llanelli, fe ddaeth a balchder i'r dref a nawr mae wedi dod o hyd i heddwch yn Llanelli."

Wedi ei eni yn Llanelli yn 1947, roedd Griffiths yn un o oreuon y byd snwcer.

Enillodd Bencampwriaeth y Byd yn y Crucible yn 1979 - y Cymro gyntaf i ennill y gystadleuaeth -  a hon oedd ei ail gystadleuaeth yn unig fel chwaraewr proffesiynol.

Fe wnaeth gwblhau'r 'goron driphlyg' yn y gamp drwy ennill y Masters a Phencampwriaeth y DU hefyd.

Roedd Griffiths ar frig y gamp yn ystod yr 1980au a dechrau’r 1990au, gan gyrraedd rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth y Byd am naw mlynedd yn olynol, a chyrraedd y rownd derfynol eto yn 1988.

Penderfynodd ymddeol o chwarae ar ôl colli yn rownd gyntaf Pencampwriaeth y Byd i Mark Williams yn 1997.

Fe wnaeth ei gyfraniad i'r byd snwcer barhau wedi iddo orffen chwarae, pan benderfynodd ddechrau hyfforddi.

Roedd e wedi hyfforddi rhai o'r chwaraewyr gorau erioed i chwarae'r gamp fel Stephen Hendry, Mark Williams a Mark Allen.

'Calon wedi torri'

Dywedodd cyn bencampwr y byd Mark Williams, o Cwm ym Mlaenau Gwent, fod Terry Griffiths yn "fentor, ffrind ac yn un o'r goreuon.

"Ef oedd un o'r goreuon wnaeth helpu fi i siapio fy ngyrfa ar ac oddi ar y bwrdd snwcer," meddai.

"Mae fy nghalon wedi torri. Doedd e ddim yn hyfforddwr yn unig, roedd e'n deulu."

Dywedodd cyn-bencampwr y byd Shaun Murphy ar X: “Dwi newydd glywed y newyddion bod Terry Griffiths wedi marw. Fy nghydymdeimlad dwysaf â’i deulu a’i anwyliaid.”

Postiodd World Sooker ddatganiad yn disgrifio Griffiths fel “un o oreuon y byd snwcer erioed”, gan ychwanegu: “Ein cydymdeimlad diffuant i deulu a llawer o ffrindiau Terry. Roedd yn cael ei garu a’i barchu gan bawb yn y gamp.”

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.