Newyddion S4C

Clunderwen: Yr heddlu'n ymchwilio i 'ddigwyddiad casineb' honedig

29/11/2024
clunderwen

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i "ddigwyddiad casineb" yn ardal Clunderwen, Sir Benfro.

Mewn datganiad, dywedodd swyddogion bod graffiti wedi'i chwistrellu ar gartref y dioddefwr "sydd wedi achosi trallod i'r preswylwyr."

Digwyddodd y digwyddiad ar ddydd Sul, 8 Medi tua 00.40 yn y bore.

"Mae swyddogion ymchwilio wedi cynnal pob trywydd ymholi arall ac maent bellach yn apelio am gymorth i adnabod y person yn y llun a allai fod â gwybodaeth a allai helpu" meddai datganiad y llu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.