Gofyn i bobl barhau i ferwi dŵr yn Rhondda Cynon Taf wedi Storm Bert
Mae Dŵr Cymru wedi gofyn i bobl ar draws rhannau o sir Rhondda Cynon Taf i barhau i ferwi eu dŵr wedi Storm Bert yr wythnos diwethaf.
Fe gafodd yr hysbysiad berwi dŵr cyntaf ei gyhoeddi ddydd Sul diwethaf, ac fe fydd angen i gwsmeriaid barhau i wneud hyn bellach tan 8 Rhagfyr.
Mae'r hysbysiad yn berthnasol ar gyfer pobl yn ardaloedd Blaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Ton Pentre, y Gelli, rhannau o’r Pentre, rhannau o Donypandy a rhannau o Ystrad.
Fe gafodd yr hysbysiad ei gyhoeddi yn sgil llifogydd yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Tyn-y-waun ger Treherbert wedi Storm Bert.
Mae angen cyfnod o dywydd sych i gyflawni'r gwaith atgyweirio ac mae'r tywydd gwlyb diweddaraf a'r glaw dros y penwythnos yn parhau i amharu ar y gwaith yn ôl Dŵr Cymru.
Bydd cwsmeriaid yn derbyn taliad ychwanegol o £100 ar ben y taliad gwreiddiol o £150 i bob aelwyd sy'n dod o dan yr hysbysiad, gyda busnesau yn derbyn £200 ar ben y taliad gwreiddiol o £300.
Ychwanegodd Dŵr Cymru fod tair gorsaf dŵr potel ar agor lle y mae modd i drigolion fynd i gasglu poteli o ddŵr.
Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru: "Hoffwn ddiolch i’n holl gwsmeriaid yn yr ardaloedd o dan sylw yn Rhondda Cynon Taf am eu cydweithrediad a’u hamynedd, a hoffwn ymddiheuro am yr anghyfleustra.
“Rydyn ni’n wynebu nifer o sialensiau wrth geisio cwblhau’r gwaith trwsio ar y tanc dŵr, ac mae ein timau’n gweithio rownd y cloc.
“Hoffwn sicrhau pawb ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i geisio adfer gwasanaethau normal cyn gynted â phosibl."