Newyddion S4C

Apêl am wybodaeth wedi i ddeifiwr fynd ar goll ym Mhen Llŷn

29/11/2024

Apêl am wybodaeth wedi i ddeifiwr fynd ar goll ym Mhen Llŷn

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth am ddeifiwr aeth ar goll ym Mhen Llŷn.

Cafodd Gwylwyr y Glannau adroddiad am 13.15 ddydd Iau fod pryderon am ddiogelwch deifiwr posib yn y môr, ger Porth Ysgaden, Tudweiliog.

Dechreuodd y chwilio eto ddydd Gwener ar ôl ymdrechion i ddod o hyd i'r dyn gychwyn brynhawn ddydd Iau.

Cafodd hofrennydd ac awyren Gwylwyr y Glannau eu galw i’r lleoliad i chwilio am yr unigolyn, yn ogystal â thimau Gwylwyr y Glannau Porthdinllaen, Aberdaron, Abersoch a Llandwrog.

Cafodd criw Bad Achub Porthdinllaen a Heddlu’r Gogledd hefyd eu galw i gynorthwyo gyda'r ymdrechion.

Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson: “Rwy’n apelio ar unrhyw un a oedd yn ardal Porth Ysgaden ar ddydd Mercher, 27 Tachwedd neu ddydd Iau, 28 Tachwedd i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.

“Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn dod o hyd i yrrwr fan a siaradodd ag aelod o Wylwyr y Glannau yn ardal y cildraeth ddoe.

"Rydym yn credu gallai fod â gwybodaeth a allai fod o gymorth gyda'n hymholiadau.

“Rwyf hefyd yn gofyn i unrhyw un a welodd Ford Mondeo Titanium arian wedi’i barcio yn y maes parcio ger Porth Ysgaden rhwng 27 Tachwedd a 28 Tachwedd i gysylltu."

Gallai  unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r llu drwy ffonio 101, neu drwy eu gwefan gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod Q179229.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.