Y Smyrffs yn dychwelyd i S4C am y tro cyntaf ers 40 mlynedd
Bydd y rhaglen deledu i blant, Smyrffs yn dychwelyd i S4C am y tro cyntaf ers 40 mlynedd.
Mae'r sianel wedi prynu trwydded i ddarlledu'r gyfres animeiddiedig gan y perchennog o Wlad Belg, Peyo Company.
Fe fydd y gyfres yn cael ei throsleisio i'r Gymraeg gan Cwmni Da ac yn cael ei darlledu ar S4C o Wanwyn 2025.
Cafodd y Smyrffs eu creu yn wreiddiol mewn llyfr comig ym 1958, ond bellach maen nhw wedi symud i'r byd sinema a theledu.
Mae'r gyfres animeiddiedig The Smurfs (2021) yn cael ei darlledu ledled y byd ar hyn o bryd ar Nickelodeon, ar sianeli rhad ac am ddim lleol ac mae ar gael ar Netflix.
Yn ddiweddar cyhoeddwyd y bydd ffilm Smurfs newydd, ac yn serennu Rihanna fel Smurfette.
'Cefnogaeth i ieithoedd lleiafrifol'
Dywedodd Sioned Geraint, Comisiynydd Cynnwys Plant a Dysgwyr S4C bod y cwmni yn gefnogol iawn o ddarlledu'r Smyrffs mewn ieithoedd lleiafrifol.
“Mae'n 40 mlynedd ers i’r Smyrffs fod ar S4C a dwi wrth fy modd y gallwn ailgyflwyno’r cymeriadau bendigedig yma i gynulleidfa newydd yn 2025," meddai.
“Mae o wedi bod yn fraint cael gweithio gyda Peyo Company i sicrhau hwn ac i gyfarfod â pherthnasau Pierre Culliford (Peyo) - y dyn a greodd y Smyrffs.
"Mae’r cyfuniad o’u cefnogaeth nhw o ieithoedd lleiafrifol ac uchelgeisiau S4C ei hun wedi creu cartref newydd i’r Smyrffs, a dwi’n gyffrous iawn.”
Dywedodd Véronique Culliford, Llywydd Peyo Company a merch Pierre Culliford (sef Peyo), crëwr y Smyrffs: “Rwy’n falch iawn o’r lansiad hwn sydd ar ddod ar S4C.
"Mae gweithio gydag ieithoedd lleol wedi bod yn ganolog i ni erioed a'r fersiwn newydd hwn yn y Gymraeg fydd y 50fed iaith i’n cyfres deledu.
"Gall plant a rhieni ddisgwyl llawer o hwyl yn gwylio Y Smyrffs ar S4C. Mae'r Smyrffs yn ôl!”
Bydd manylion pellach am y gyfres yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd.