Newyddion S4C

‘Menyw arbennig’: Cyn Miss-Cymru yn diolch i’w hathrawes ysgol

27/11/2024
Gwesty Aduniad

Mae cyn enillydd cystadleuaeth Miss Cymru wedi cyfarfod ei chyn athrawes er mwyn diolch iddi am ei chefnogaeth pan aeth hi drwy gyfnod anodd yn yr ysgol.

Roedd yn rhaid i Sara Manchipp fynd i weld y prifathro yn gyson ynglŷn â’i hymddygiad pan oedd yn ddisgybl.

“O’n i wastad mewn trwbl. O’n i wastad yn rebellious. O’n i wastad yn achosi trwbl, ddim yn gwrando. O’n i jest yn ddisgybl diawl,” meddai Sara ar raglen 'Gwesty Aduniad'. 

Ymhlith rhai o’r pethau mae’n cofio ei wneud oedd rhoi pysgod drewllyd mewn tyllau awyru (air vents) yn yr ysgol a rhoi dŵr o’r toilet yn nhegell un o’r athrawon.

Ond mae’n dweud bod un o’i hathrawesau, Delyth Reed, eisiau deall pam yr oedd hi’n ymddwyn yn y fath ffordd. 

“Odd hi wastad yn trial deall y rhesymau tu ôl pam o fi yn bihafio y ffordd o fi, yn lle jest bod fel, ‘Sara ti’n drwg, ti di neud hwn, bla bla bla'. Odd hi moen siarad amdano fe. Odd hi moen helpu fi. Mae lot o parch da fi iddi fi ac ar y pryd odd dim parch da fi am llawer o’r athrawon heblaw am Mrs Reed.”

Yn ystod ei chyfnod yn yr ysgol roedd sefyllfa Sara adref yn anodd. 

Anhapus

“Yn hanesyddol o’n i jest yn anhapus achos odd mam a dad wedi ysgaru ac odd mam wedi cwrdd a dad fy mrawd ac o’n i mewn sefyllfa yn byw gyda fe. O’n i jest ddim yn hoffi bod adref.”

Wnaeth hi ddim sôn am ei phroblemau adref wrth yr athrawon yn yr ysgol am ei bod yn teimlo’n ‘embarrassed’ meddai.

Yn ystod y rhaglen mae hi a’i hathrawes, Delyth Reed, yn cyfarfod am y tro cyntaf ers i Sara adael yr ysgol. Mae’n cael cyfle i ddiolch iddi ac i esbonio nad oedd hi’n hapus iawn adref yn y cyfnod hynny.

Mae’n dweud bod geiriau Mrs Reed o anogaeth wedi aros gyda hi er iddi adael yr ysgol 15 mlynedd yn ôl.

“Ers i fi orffen ysgol mae dylanwad ti wedi aros gyda fi achos ti odd un o’r athrawon odd wedi credu yno fi a gweud bod potensial da fi. Odd neb fel ti yn gwneud i fi teimlo yn saff a loved mewn ffordd os ma hwnna yn neud sens,” meddai Sara wrth Mrs Reed. 

“Fi’n 34 bron a fi dal yn meddwl am ffordd ot ti gyda fi yn yr ysgol a fi’n gwerthfawrogi hwnna.”

Fe allwch chi wylio Gwesty Aduniad ar S4C, am 21:00 nos Fercher 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.