Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru yn rhoi’r grym i gynghorau godi treth ar dwristiaid

25/11/2024
llanberis / drakeford

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi’r grym i gynghorau lleol i godi treth ar dwristiaid.

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn cyflwyno bil a fyddai’n rhoi'r dewis i awdurdodau lleol gyflwyno “ardoll fach” ar ymwelwyr yn eu hardaloedd, gyda’r bwriad o “ailfuddsoddi mewn twristiaeth leol”.

O dan y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), fe fyddai ymwelwyr sydd yn aros dros nos mewn llety yn gorfod talu ardoll (levy) o £1.25 y pen y noson, tra bod pobl sydd yn aros mewn hostel neu mewn safle gwersylla yn talu 75 ceiniog y pen y noson.

Os bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn dewis cyflwyno y dreth ar ymwelwyr, amcangyfrifir y gallai godi hyd at £33m y flwyddyn. Bydd yr arian a godir yn “cefnogi gweithgarwch twristiaeth a seilwaith lleol” yn ôl y Llywodraeth.

Mae disgwyl mai’r flwyddyn 2027 yw’r cynharaf y gallai’r ardoll gael ei gyflwyno, ar ôl i awdurdodau lleol ymgynghori â'u cymunedau.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: "Ry'n ni'n gwybod bod twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig i economi a bywyd Cymru. Ry'n ni am sicrhau ei bod yn gynaliadwy dros y tymor hir.

"Dyna pam ry'n ni'n credu ei bod hi'n deg i ymwelwyr gyfrannu at gyfleusterau lleol, gan helpu i ariannu seilwaith a gwasanaethau sy'n rhan annatod o'u profiad. 

“Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd ac yn rhoi budd i gymunedau, twristiaid a busnesau lleol – ry'n ni eisiau'r un peth i Gymru.

"Byddai'r arian a gâi ei godi drwy ardoll yn cael ei gadw gan awdurdodau lleol a'i ailfuddsoddi yn eu hardaloedd lleol i gefnogi twristiaeth leol, gynaliadwy. Mae'n gyfraniad bach a allai wneud gwahaniaeth mawr."

'Cam pwysig'

Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn cynnwys gofyniad i sefydlu a chynnal cofrestr o lety ymwelwyr yng Nghymru, a fyddai – am y tro cyntaf – yn darparu cofrestr o'r ystod eang o lety i ymwelwyr sydd ar gael ledled y wlad.

Mae treth ar ymwelwyr wedi eu defnyddio mewn sawl rhan o'r byd, gan gynnwys ym Manceinion, Gwlad Groeg, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Sbaen a Portiwgal.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Bydd y Bil hwn yn rhoi'r dewis i gynghorau gyflwyno ardoll ar ymwelwyr sy'n aros dros nos.

"Bydd pob cyngor yn penderfynu sut i gymhwyso'r ardoll yn seiliedig ar yr hyn sydd orau ar gyfer eu hardal nhw, gan gydnabod y gallai fod yn addas mewn rhai rhannau o Gymru ond nid mewn rhannau eraill.

"Rydyn ni'n falch ein bod wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar hyn ac yn edrych ymlaen at weld y ddeddfwriaeth ddrafft yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd hyn yn gam pwysig ymlaen i dwristiaeth ac economïau lleol Cymru."

'Rhagweithiol'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru. Dywedodd Dr Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith, y bydd yn "rhan o’r ateb i liniaru effeithiau niweidiol twristiaeth ar ein cymunedau".

“Mae twristiaeth ar ei ffurf bresennol yn ddiwydiant echdynnol, ansicr a thymhorol, sy’n peri niwed i’n cymunedau a’n hiaith," meddai.

"Mae’r cymunedau hyn - yn aml rhai o’r tlotaf yn Ewrop - yn profi heriau sylfaenol yn sgil twristiaeth anghynaladwy, megis anfforddiadwyedd tai, diffyg mynediad at wasanaethau cyhoeddus a swyddi byrdymor gyda chyflogau isel.

“Dylai’r arian a gesglir gan y dreth newydd yma gael ei glustnodi gan awdurdodau lleol ar gyfer gwyrdroi’r niwed yma."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.