Cynllun cymunedol yn wynebu dod i ben oherwydd diffyg cyllid
Mae cynllun cymunedol yn Wrecsam sydd yn helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yn wynebu dod i ben ar ddiwedd y mis.
Fe fydd Community Wellness - gwasanaeth gafodd ei sefydlu yn 2021 gan y meddyg teulu Karen Sankey o Wrecsam - yn gorfod cau ar ddiwedd Tachwedd, ar ôl rhedeg allan o gyllid.
Yn wreiddiol, cafodd y prosiect ei leoli yn nhref Shotton am 18 mis cyn iddo dderbyn cyllid o Gronfa Codi'r Gwastad gan Gyngor Wrecsam.
Ar ôl derbyn y cyllid hwn, fe wnaeth Community Wellness symud i Neuadd George Edwards ym mhentref Cefn Mawr fis Ebrill eleni.
Mae’r prosiect, sydd yn cynnig triniaeth feddygol i gleifion, yn helpu tua 160 o bobl drwy sesiynau wythnosol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae aelodau o’r gymuned wedi elwa o ddefnyddio'r gwasanaeth yma.
Mae Shelley Stanworth, fel sawl un sy’n defnyddio’r gwasanaeth, wedi delio â phroblemau iechyd meddwl a dibyniaeth ar gyffuriau gydol ei bywyd.
"Mae wedi newid fy mywyd i; newid fy mywyd i’n llwyr," meddai, ar ôl defnyddio’r gwasanaeth yn gyson ers iddo gychwyn ym mis Ebrill.
"’Dw’i wastad wedi cael trafferth gyda chyffuriau ac alcohol. ‘Dwi'n meddwl eu bod nhw'n ffordd i fi drïo helpu fy hun i ymdopi gyda thrawma a stress, ond mae 'na ffyrdd gwell. Fe ddysgais i hynny pan ddes i yma."
Mae’r prosiect wedi cefnogi eraill fel Shelley gydag adnoddau fel cwnsela trawma, yoga, a magu cysylltiadau cymunedol.
Y disgwyl yw y bydd Community Wellness yn cau erbyn diwedd y mis os nad oes ffynhonnell ariannu newydd yn cael ei gynnig, ac mae Shelley yn poeni am y dyfodol.
“‘Dw’i wedi gwneud lot o gysylltiadau da a ‘dwi'n mynd i gadw hwnna i fyny, ond ‘dwi'n gobeithio y daw hyn ‘nôl. Mae'n hyfryd cael rhywle lle mae pawb yn gallu cwrdd â'i gilydd.”
“Rwy’n ofni beth fydd yn digwydd pan fyddwn ni’n stopio”
Mae Karen Sankey, arweinydd clinigol Community Wellness, a’r un wnaeth ei sefydlu - hefyd yn bryderus am ddiwedd y prosiect.
“Y prosiect hwn ar ddydd Iau yw'r rheswm mae llawer o bobl yn dal i fynd. Mewn gwirionedd, rwy’n ofni beth fydd yn digwydd pan fyddwn ni'n stopio.
"Beth fydd yn digwydd i'r bobl hyn? Ac mae'r bobl yma'n dweud, 'Beth wnawn ni os nad wyt ti yma?' ac mae hynny'n wirioneddol frawychus.”
Mae Karen yn dweud bod y prosiect wedi cael effaith sylweddol ar y gymuned leol.
“Mae llawer o bobl sy'n dod yma wedi bod ‘nôl ac ymlaen o fewn gwasanaethau.
"Maen nhw'n dweud bod hwn yn wahanol. Maen nhw'n disgrifio fe fel rhywbeth sydd wedi achub eu bywydau, wedi newid eu bywydau - mae’n lifeline.”
“Mae’n bwysig ein bod ni’n ffeindio ffordd o gadw'r gwaith yma i fynd oherwydd, i rai pobl, dyma'r rheswm maen nhw'n codi o'r gwely.”
Apêl y prosiect i nifer yw ei fod yn cynnwys adnoddau sydd ddim ar gael o fewn y GIG yn gyffredinol.
“Rydym yn gwneud llawer o ymyriadau a gweithgareddau cymdeithasol, ond rydym hefyd yn gwneud therapïau trawma, a ‘dyw rheiny ddim yn hawdd eu cael yn y system ar hyn o bryd,” meddai Karen.
Fel mae pethau’n sefyll, bydd y cyllid yn dod i ben ddiwedd Tachwedd, gyda dyfodol y prosiect yn edrych yn fregus:
"Mae gennym ni un wythnos arall, ac yna does gennym ni ddim mwy o arian.
“Mae gennym lawer o ddiddordeb yn y gwaith yr ydym yn ei wneud fel model ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu y gallai ffynonellau cyllido cynaliadwy fod yn bosib yn y dyfodol; ond, ar hyn o bryd, nid oes mynediad at arian.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae manteision presgripsiynu cymdeithasol wedi’u nodi yn ein Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol.
“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am ddiwallu anghenion iechyd a lles ei boblogaeth leol gan weithio gyda’i awdurdodau lleol, partneriaid annibynnol a thrydydd sector.”