Tymheredd o 30.2°C yng Nghymru ar ddiwrnod poetha'r flwyddyn
18/07/2021
Tymheredd o 30.2°C yng Nghymru ar ddiwrnod poetha'r flwyddyn
Dydd Sul oedd diwrnod poetha'r flwyddyn yng Nghymru eleni, gyda'r tymheredd yn cyrraedd 30.2°C yn ystod y dydd.
Mae hyn ychydig yn uwch na'r tymheredd ddydd Sadwrn, lle welodd Brynbuga yn Sir Fynwy dymheredd o 29°C.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, roedd hi'n 28°C yn y Bala, 26°C yn Nhyddewi, a 30°C yng Nghaerdydd yn ystod dydd Sul.
Roedd rhybudd yn ei le ar gyfer lefelau paill, gyda'r disgwyl iddynt barhau yn uchel tan ddydd Mercher.
Mae hi'n addo tywydd poeth ar ddydd Llun hefyd, gyda'r tymereddau yn aros yn yr ugeiniau uchel yng Nghymru drwy gydol y dydd.
Llun: Yodspica