Cwestiynau am rôl cwmnïau adeiladu wrth ddatblygu canolfan ganser Felindre
Mae pwyllgor wedi clywed fod consortiwm wedi ei ddewis i adeiladu canolfan ganser wedi pryderon am rôl cwmnïau adeiladau a gafodd eu dal yn cyd-gynllwynio ar gynigion am brosiectau eraill.
Fe wnaeth Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd scriwtineiddio cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre am yr ysbyty newydd ar ardal dolydd gogleddol (Northern Meadows) yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.
Fe holodd Natasha Ashgar AS o'r Ceidwadwyr am yr achosion llys yn ymwneud ag aelodau o gonsortiwm Acorn, Sacyr a Kajima, a enillodd y cytundeb adeiladu.
Dywedodd y cyfarwyddwr gweithredol dros dro, Lauren Fear, fod yr ymddiriedolaeth wedi dod yn ymwybodol o achos llys yn erbyn Sacyr wedi i gynigon terfynol gael eu cyflwyno ym mis Gorffennaf 2022.
Roedd y cwmni yn un o chwe chwmni adeiladu a gafodd eu dirwyo €204m gan reoleiddiwr yn Sbaen am gyd-gynllwynio wrth gyflwyno cynigion ar brosiectau cyhoeddus dros gyfnod o 25 mlynedd.
'Enw da'
Fe gadarnhaodd Ms Fear fod yr ymddiriedolaeth wedi dod yn ymwybodol o'r achos cyn i lythyr cyfranogwr llwyddiannus gael ei anfon.
Dywedodd wrth y cyfarfod ar 21 Tachwedd fod y cwmni cyfreithiol DLA Piper wedi cynghori fod yr ymatebion yn parhau yn ddilys oherwydd bod yr achos dal yn "fyw" a bod Sacyr yn bwriadu apelio.
Fe wnaeth Rhianon Passmore o'r blaid Lafur alw am sicrwydd fod y broses gaffael yn drwyadl.
'Trylwyr iawn'
Dywedodd prif weithredwr dros dro Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre Carl James: "Mae ein henw da yn rhy bwysig ac ni fyddem byth yn rhoi hynny mewn perygl yn fwriadol.
"Mae gennym ni brosesau rheoli risg trylwyr iawn."
Fe gwestiynodd Mark Isherwood, cadeirydd y pwyllgor, sut nad oedd yr ymddiriedolaeth yn ymwybodol o adroddiadau o Kajima yn cael eu canfod yn euog o gyd-gynllwynio ar gynigion ym mis Mawrth 2021.
Ymatebodd Ms Fear drwy ddweud mai'r "cyngor yr ydym ni wedi ei dderbyn ydi nad oes disgwyl arnom ni i fod wedi gwneud yr ymchwil yna fel rhan o'r broses gaffael."