Newyddion S4C

Nifer o ysgolion ar gau yn y gogledd o achos y tywydd gaeafol

Groes, Sir Ddinbych

Mae nifer o ysgolion wedi cau yn y gogledd unwaith eto ddydd Iau yn dilyn rhagor o eira a rhew.

Mae degau o ysgolion wedi cau yn ardaloedd Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam a Chonwy. 

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew i siroedd y gogledd a fydd mewn grym tan 10.00 y bore.

Daw hyn wedi dau ddiwrnod o eira ar draws nifer o siroedd y gogledd ac ar draws ucheldiroedd y de.

Pa ysgolion sydd ar gau?

Mae nifer o ysgolion yn parhau ar gau ddydd Iau yn siroedd y gogledd.

Mae 20 o ysgolion ar gau yn Sir Ddinbych. Dyma’r sir sydd â’r nifer fwyaf o ysgolion ar gau o achos yr eira ddydd Iau. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yma.

Yng Nghonwy mae 12 o ysgolion, rhai cynradd yn bennaf, ar gau. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma

Un ysgol sydd ar gau yn Sir y Fflint, sef Ysgol Gynradd Trelogan. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yma

Yn Wrecsam mae Ysgol Acrefair ar gau. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yma.

Mae Ysgol Parc y Bont yn Llanddaniel ym Môn ar gau yn sgil diffyg gwres a dŵr poeth. 

Mae Ysgol Bro Teifi yng Ngheredigion hefyd ar gau o ganlyniad i "amodau ofnadwy o beryglus ar y campws wedi i’r eira rewi dros nos".

Llun: Jen Jones 

 

 

Image


 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.